
Yr Athro Carolyn Donoghue
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Mae Carolyn yn uwch-swyddog gweithredol ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol ac mae ganddi brofiad sylweddol yn y GIG ac ym maes Addysg Uwch. A hithau wedi cymhwyso fel Nyrs Gyffredinol Gofrestredig yn wreiddiol, datblygodd yrfa glinigol yn ddiweddarach, cyn symud i hyfforddi ac uwch-reoli. Ymgymerodd Carolyn â sawl rôl uwch yn y GIG ym Mryste cyn symud i Addysg Uwch yn ddiweddarach fel Cofrestrydd Coleg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae Carolyn wedi datblygu gyrfa portffolio sy’n cynnwys rôl fel Aelod Anweithredol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac Aelod Annibynnol o Fwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Gorllewin Lloegr.