Dr Ashra Khanom and patient representatives with award

Dr Ashra Khanom yn ennill Gwobr Cyflawniad Cynnwys y Cyhoedd 2019

Mae Dr Ashra Khanom, sy’n gweithio yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, a’i thîm o ymchwilwyr o gymunedau ceiswyr lloches a ffoaduriaid, wedi llwyddo i ennill Gwobr Cyflawniad Cynnwys y Cyhoedd 2019 am eu gwaith arloesol yn astudiaeth HEAR.

Mae’r Wobr Cyflawniad Cynnwys y Cyhoedd, a drefnir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac a gyflwynir yn y gynhadledd flynyddol, yn ei hail flwyddyn a’i nod ydy dathlu’r gwaith rhagorol cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil sy’n mynd rhagddo ledled Cymru.

Mewn blynyddoedd diweddar, mae nifer y ceiswyr lloches a’r ffoaduriaid yng Nghymru wedi cynyddu, ond dydyn ni ddim yn gwybod rhyw lawer am eu profiadau o ofal iechyd.

Bu astudiaeth HEAR (Profiadau ceiswyr lloches a ffoaduriaid o iechyd yng Nghymru) yn ymchwilio i brofiadau oedolion sy’n geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid yng Nghymru o iechyd, llesiant a gofal iechyd, gan gynnwys barn a phrofiadau’r rheini sy’n derbyn gofal iechyd a’r rheini sy’n ei ddarparu.

Oherwydd bod poblogaeth yr ymchwil yn anodd ei chyrraedd, bu tîm yr astudiaeth yn defnyddio dulliau newydd o gynnwys y cyhoedd er mwyn goresgyn yr heriau hyn.

Buon nhw’n hyfforddi ac yn cefnogi wyth o ymchwilwyr o gymunedau ceiswyr lloches a ffoaduriaid i gyflawni’r ymchwil, gan helpu i dawelu meddwl cyfranogwyr a chael gwared â rhwystrau iaith.

Meddai Noor Hina, un o’r ymchwilwyr-cymheiriaid ar y tîm: “Diolch yn fawr am y cyfle wnaethoch chi ei roi i mi; roedd hi’n fraint mawr i mi dderbyn y wobr. Roedd chwarae rhan yn astudiaeth HEAR yn hynod gyffrous.”

“Rydyn ni wrth ein boddau bod gwobr glodfawr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru eleni am gynnwys y cyhoedd a chleifion wedi cydnabod yr agwedd hon ar waith astudiaeth HEAR,” meddai Ashra, yr ymchwilydd arweiniol.

“Mae’n adlewyrchu’r meddwl a’r gofal rydyn ni fel tîm HEAR wedi’i gymryd i sicrhau bod grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio, fel ceiswyr lloches a ffoaduriaid, wedi’u cynnwys yn yr astudiaeth fel ymchwilwyr-cymheiriaid ac fel aelodau o’r cyhoedd a chleifion.

“Gwnaethon nhw ein galluogi ni i ennill ymddiriedaeth y boblogaeth ehangach o geiswyr lloches yng Nghymru, a’n helpu i’w cyrraedd.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr astudiaeth hon yn gosod y safonau ar gyfer gwaith arall yn y dyfodol lle gall grwpiau sy’n draddodiadol anodd i’w cyrraedd gael rolau ystyrlon mewn astudiaethau fel partneriaid a chydweithredwyr.”

Mae canlyniadau’r astudiaeth yn awgrymu bod cyfuniad o ddull tosturiol o fynd ati i ddarparu gofal ac adnoddau ychwanegol ar gyfer hyfforddi a chefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a phobl sy’n ceisio lloches, yn enwedig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd, yn gallu gwella mynediad, a lleihau anghydraddoldebau gofal iechyd i geiswyr lloches a ffoaduriaid.

Meddai Alex Newberry, a oedd yn cynrychioli Llywodraeth Cymru ar y panel beirniadu ar gyfer y wobr: “Roedd y cais yn dangos gweithgarwch cynnwys y cyhoedd cryf gydol y prosiect cyfan, a chysylltiad clir â safonau’r DU ar gyfer cynnwys y cyhoedd.

“Mae’n dangos sut y mae dull hyblyg o weithredu, sy’n ystyried sut y gallwch chi werthfawrogi cyfraniad pobl i’r prosiect mewn nifer o ffyrdd, yn cynnig dulliau arloesol o wobrwyo a grymuso’r rheini sy’n chwarae rhan.

“Roedd y cais yn dangos yr effaith y mae cynnwys y cyhoedd wedi’i chael, sef rhywbeth a oedd yn hanfodol i gyflawni’r prosiect, ac yn dangos bod llais y rheini a oedd yn chwarae rhan wedi cael lle amlwg iawn."

Cydweithrediad ydy astudiaeth HEAR, rhwng Prifysgol Abertawe, Iechyd Cyhoeddus Cymru (trwy eu Cronfa Partneriaeth Ymchwil) a phedwar sefydliad yn y trydydd sector: Y Groes Goch Brydeinig, Alltudion ar Waith, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a’r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig. I gael cymorth a chyngor ar gynnwys y cyhoedd, cysylltwch â thîm cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru trwy e-bost.