grŵp o bobl mewn cyfarfod

Dull ‘Cymru’n Un’ o gynnal treialon ymchwil

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch iawn o ariannu menter newydd gyffrous i ddarparu cyfleoedd i bobl ledled Cymru gymryd rhan yn y gwaith o gynllunio a datblygu treialon ymchwil.

Mae Treialon Cymru yn cael ei arwain gan y Ganolfan Ymchwil Treialon (CTR) ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'n cysylltu ar draws seilwaith a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a thu hwnt.  Yn ogystal â chynyddu nifer yr astudiaethau ar raddfa fawr a arweinir o Gymru, bydd yn cefnogi pobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i gael eu cysylltu ag Uned Treialon Clinigol (CTU), a sicrhau bod y gwaith hwn yn diwallu anghenion pawb yng Nghymru. 

Drwy ddefnyddio arbenigedd o bob rhan o Gymru, nod Treialon Cymru yw cryfhau cydweithio drwy weithio gyda grwpiau seilwaith fel Economeg Iechyd a Gofal Cymru, Byrddau Iechyd, Prifysgolion, y sector gofal cymdeithasol ac unedau treialon clinigol eraill.

Yn 2020 lansiwyd proses adolygu ffurfiol o gyllid CTU yng Nghymru, a arweiniodd at adolygiad allanol a datblygu un uned dreialon a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer Cymru. Dyfarnwyd cais am gyllid yn y dyfodol i'r CTR ar gyfer darparu model busnes cynaliadwy, hirdymor ar gyfer treialon ymchwil yng Nghymru.

Yn dilyn proses ffurfiol, mae'r Ganolfan Ymchwil Treialon wedi datblygu a bydd yn arwain ar Treialon Cymru fel menter genedlaethol, gan ddod ag arbenigedd ynghyd o bob rhan o gymuned ymchwil Cymru.

Dywedodd Laura Bunting, Pennaeth Seilwaith Ymchwil a Meddygaeth Arbrofol yn Adran Ymchwil a Datblygu Llywodraeth Cymru: "Trwy Treialon Cymru rydym yn cymryd ymagwedd wirioneddol gydweithredol at dreialu ymchwil, gan gynnwys ystod eang o randdeiliaid o bob rhan o Gymru mewn ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod ymchwil heddiw yn arwain at ganlyniadau gwell i bobl ar draws y sbectrwm iechyd a gofal cymdeithasol.  Rydym yn falch o gefnogi'r fenter newydd hon ac edrychwn ymlaen at weld manteision dull gweithredu Cymru Un."