Dweud eich dweud ynglŷn â strôc

22 Gorffennaf

Mae’r Bartneriaeth Gosod Blaenoriaethau ar gyfrer Strôc yn gofyn i bobl y mae strôc wedi effeithio arnyn nhw, gan gynnwys ffrindiau agos a theulu sy’n cefnogi’r rheini sydd wedi goroesi ar ôl strôc, a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sy’n gweithio ym maes strôc, am y cwestiynau diateb sydd bwysicaf iddyn nhw ar gyfer ymchwil strôc.

Ers dechrau mis Mawrth 2020, mae’r Bartneriaeth Gosod Blaenoriaethau ar gyfer Strôc wedi casglu lleisiau pobl ledled y DU i gael gwybod pa ymchwil allai wneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau’r rheini y mae strôc wedi effeithio arnyn nhw. Os y gallwch, cymerwch yr amser i ymuno â nhw a helpu i newid y dyfodol i bobl y mae strôc wedi effeithio arnyn nhw.

Ar hyn o bryd, mae’r coronafeirws yn achosi pryder a llawer o newid i fywydau pobl y mae strôc wedi effeithio arnyn nhw. Mae llawer o bobl a sefydliadau’n gweithio i newid eu ffordd o fod yno i gefnogi’r rheini sydd wedi goroesi ar ôl strôc, a’r rheini sy’n agos atyn nhw, yn yr amser hwn sydd ohoni.

Gallwch chi gymryd rhan nawr ar wefan y Gymdeithas Strôc; bydd yr arolwg yn rhedeg tan ganol mis Ebrill 2021. A fyddech cystal â rhannu’r cyfle â phobl eraill y mae strôc wedi effeithio arnyn nhw a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol ym maes strôc rydych chi’n eu hadnabod.