cleifion a nyrsys ar ward ysbyty

Dyfarnu amser ymchwil gwarchodedig i ddarpar arweinydd ymchwil yng Nghymru

17 Chwefror

Mae amser ymchwil gwarchodedig wedi’i ddyfarnu i bedwar darpar arweinydd ymchwil yng Nghymru gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae’r cyllid yn dod o gylch 2021 Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG sydd â chyfanswm gwerth oes o £356,789.

Mae cynllun Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG yn agored i staff GIG Cymru, neu staff sydd wedi'u contractio i GIG Cymru (fel meddygon, deintyddion, nyrsys, bydwragedd, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr clinigol) mewn gofal sylfaenol, eilaidd neu gymunedol neu iechyd y cyhoedd.

Ei nod yw datblygu capasiti a gallu ymchwil yn y GIG drwy gynnig cyfle i staff wneud cais am amser gwarchodedig i gymryd rhan mewn gweithgarwch ymchwil.

Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

"Gwnaeth angerdd a diddordeb yr ymgeisydd wrth ddatblygu ei sgiliau ymchwil argraff dda ar y panel ariannu.

"Nod y gwobrau hyn, sy'n darparu amser ymchwil gwarchodedig, yw helpu i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o brif ymchwilwyr a phenaethiaid ymchwil a all arwain astudiaethau ymchwil o ansawdd uchel nid yn unig yma yng Nghymru ond hefyd ar lefel y DU ac yn rhyngwladol."

Dyma’r rhai sy'n derbyn Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG o gylch 2021:

Dr Lucy Jones, Arbenigwr Cyswllt mewn iechyd rhywiol a chlefyd heintus

  • Maes diddordeb ymchwil: Ymatebion imiwnedd gwahaniaethol i COVID/brechlynnau COVID mewn oedolion a phlant/pobl ifanc
  • Sefydliad: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Cost: £83,322

Dr Alan Woodall, Arweinydd Clinigol mewn iechyd meddwl integredig

  • Maes diddordeb ymchwil: Iechyd meddwl y cyhoedd ac optimeiddio amlfferylliaeth i gleifion â salwch meddwl difrifol
  • Sefydliad: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • Cost: £86,769

Dr Peter Cnudde, Ymgynghorwr trawma ac orthopedeg

  • Maes diddordeb ymchwil: Datblygu llwybr a alluogir gan dechnoleg ar gyfer cleifion arthroplasti
  • Sefydliad: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Cost: £90,231

Dr Sarah Bell, Anaesthetydd Obstetrig Ymgynghorol

  • Maes diddordeb ymchwil: Gwaedlif ôl-partum, sepsis obstetrig, gofal critigol obstetrig
  • Sefydliad: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  • Cost: £96,467

I gael rhagor o newyddion gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.