Dyfodol cyffrous gyda phenodiad rheolwr ymchwil newydd ENRICH Cymru
24 Ebrill
Mae Dr Deborah Morgan wedi’i phenodi’n rheolwr ymchwil newydd ENRICH Cymru.
Wyneb newydd i dîm ENRICH Cymru
Mae Deborah yn ymuno â'r tîm o ddau hwyluswyr wedi’i neilltuo i ddatblygu'r rhwydwaith, annog cyfnewid syniadau a meithrin gwaith i gyd-greu ymchwil gan ddod ag ymchwilwyr, staff cartrefi gofal, preswylwyr a theuluoedd at ei gilydd.
Cefndir mewn ymchwil i unigrwydd
Mae Deborah hefyd yn uwch swyddog ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia ym Mhrifysgol Abertawe ac mae'n arbenigo mewn unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae ei hymchwil wedi archwilio pontio i mewn ac allan o unigrwydd, a chysylltiadau cymdeithasol.
Mae ganddi gefndir mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, anabledd a salwch cronig, ar hyd bywyd. Mae ganddi brofiad o wneud gwaith ymchwil gofal cymdeithasol gyda chartrefi gofal gan gynnwys comisiynau gan Lywodraeth Cymru i ailystyried y Pryderon Cynyddol o ran, ac ynglŷn â chau cartrefi gofal.
Dywedodd Dr Deborah Morgan:
“Pan welais i'r cyfle hwn, roeddwn i'n meddwl ei fod yn gweddu i’r dim. Mae'n dwyn ynghyd fy holl waith blaenorol gyda chartrefi gofal ac yn caniatáu i mi barhau i hyrwyddo ymchwil gofal cymdeithasol yn broffesiynol.”
Mae Deborah yn gweithio'n agos gyda'r Ymgyrch i Roi Terfyn ar Unigrwydd, y Sefydliad Iechyd Meddwl a'r Comisiynydd Pobl Hŷn ar faterion yn ymwneud ag unigrwydd ac ynysigrwydd Cymdeithasol. Mae'n aelod o Fwrdd Strategaeth Unigrwydd ac Ynysigrwydd Llywodraeth Cymru ac mae'n aelod o'r grŵp Trawsbleidiol Undod Rhwng Cenedlaethau.
Ymchwil sy'n arwain at newid polisi
Aeth Deborah, sy'n ofalwr i'w merch a'i rhieni, ymlaen i ddweud: “Mae llawer o bobl yn meddwl mai dim ond mewn prifysgolion y mae ymchwil yn cael ei chynnal a’ch bod chi yn y pen draw yn llunio dogfen sy'n eistedd ar silff yn casglu llwch, ond o fy ngwaith i, rwy'n gwybod bod effaith wirioneddol yn dod o'r rhai sydd â phrofiad bywyd boed yn ofalwyr, rheolwyr cartrefi gofal neu’n breswylwyr eu hunain.
"Rwy'n credu'n gryf mewn siarad â'r rhai sy'n gwybod, i sicrhau bod gan yr ymchwil ystyr wir a’i bod yn hwyluso newid. Rwy'n llawn cyffro i weithio gyda'r tîm i helpu i ehangu'r rhwydwaith a chefnogi ymchwil sy'n newid bywydau i helpu'r bobl hynny mewn cartrefi gofal yng Nghymru.”
Mae Deborah yn dilyn cyn gydlynydd ENRICH Cymru, Stephanie Green sy'n ymgymryd â rhan lai, fwy ymgynghorol gydag ENRICH Cymru fel is-gadeirydd y Grŵp Cynghori.
Mwy o gartrefi gofal yn cynnal ymchwil - ENRICH Cymru
Mae Rhwydwaith ENRICH Cymru yn cael ei gynnal ar y cyd gan Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia Cymru gyfan (CADR) a Chanolfan Gymorth a Chyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy'n rhan o gymuned Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Dywedodd Helen Grindell: "Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Deborah wrth i ENRICH Cymru barhau i dyfu. Ni allwn ni aros iddi ymuno â ni yn ein hymdrechion i ehangu'r gefnogaeth ar gyfer ymchwil cartrefi gofal wrth i fwyfwy o gartrefi gofal gynnal ymchwil hynod anhygoel gydag effaith wirioneddol ar eu preswylwyr.”