Hyrwyddwr Ymchwil Lann Niziblian

“Dymchwel waliau a lleihau gwarth”: Hyrwyddwyr Ymchwil

“Dymchwel waliau a lleihau gwarth” yw sut mae Paul Gauchi, y rheolwr cyfathrebu yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH), yn crynhoi gwaith grŵp ysbrydoledig o ‘hyrwyddwyr ymchwil’

Wedi’u recriwtio o gronfa o fwy na 5,000 o bobl sydd wedi cymryd rhan mewn ymchwil ers sefydlu’r ganolfan, mae’r 20 o hyrwyddwyr yn helpu i roi gwybod i bobl am NCMH trwy adrodd eu straeon. 

Mae Paul yn esbonio: “Mae cymryd rhan mewn ymchwil yn gwbl gyfrinachol, ond roedd rhai pobl yn awyddus i rannu eu straeon ac annog eraill i gymryd rhan mewn ymchwil – ac rydyn ni’n hynod ddiolchgar am hynny. Mae yna deimlad go iawn bod yr hyrwyddwyr hyn eisiau helpu a chefnogi pobl sydd wedi cael profiadau tebyg.

Mae’r Ganolfan – y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ei hariannu – wedi bod yn defnyddio’r hyrwyddwyr i hybu eu gwaith a’u hymchwil ar eu gwefan, trwy dudalennau’r cyfryngau cymdeithasol ac mewn cylchlythyrau a thaflenni. 

Mae Paul yn ychwanegu: “Mae’r 20 o unigolion hyn yn dangos bod problem iechyd meddwl yn gallu digwydd i unrhyw un, unrhyw adeg. Ond maen nhw hefyd yn dangos eu bod nhw’n fwy na’u diagnosis a, thrwy ddangos hyn, maen nhw’n chwarae rhan anferthol yn ein helpu ni i fynd i’r afael â gwarth.

Hyrwyddwyr Ymchwil: Lann Niziblian

Mae Lann Niziblian yn 45 oed. Mae’n ŵr, yn dad, yn galigraffydd. Mae ganddo hefyd anhwylder deubegynol. Yma, mae Lann yn dweud wrthon ni am ei brofiad a pham iddo ddod yn hyrwyddwr ymchwil.

“Saith mlynedd yn ôl oedd hi pan newidiodd popeth. Mi gollais fy swydd ac mi es i’n ddarnau. Allwn i ddim ymdopi.  

“Un diwrnod, mi barciais mewn cilfan i fyny ar y mynydd, diffodd fy ffôn a jest eistedd yna’n crïo am oriau. Ac yna mi wnes i’r un peth y diwrnod wedyn. Roeddwn i’n gwybod bod rhywbeth o’i le ac mi benderfynais ei bod hi’n bryd siarad â’m meddyg teulu.

“Diagnosis fy meddyg teulu oedd fy mod i’n dioddef o iselder, ac mi ragnododd wrth-iselyddion i mi. Mi wnes i aros ar y feddyginiaeth am ddwy flynedd gymharol sefydlog, ond dwi nawr yn sylweddoli mai magu cyfnod manig oeddwn i. Mi ddechreuais i gael hwyliau anarferol o uchel ac mi wnes i lawer o benderfyniadau anymarferol. Dim ond pan wnes i ddod ar draws erthygl ar rywun ag anhwylder deubegynol y dechreuais i roi’r darnau at ei gilydd. Mi es i yn ôl at fy meddyg teulu ac yna cefais fy atgyfeirio at seiciatrydd. 

“Roedd y seiciatrydd yn fy neall. Alla’ i ddim ei chanmol hi ddigon. Gyda’i help hi, a chefnogaeth fy nheulu, mi lwyddais i wneud fy hwyliau yn fwy sefydlog a chadw’n iach. Yn y diwedd, mi darais ar y gymysgedd iawn o feddyginiaethau ac roedd hi’n teimlo fel petai rhywun wedi cynnau’r goleuadau unwaith eto. Roeddwn i’n teimlo fel fi fy hun eto. 

“Mi benderfynais o’r cychwyn cyntaf y buaswn i’n onest â’m teulu a’m ffrindiau. Mae’r ymateb wedi bod yn gymysg. Mae fy nheulu agos – fy ngwraig a’m plant – wedi bod yn wych. Dwi’n lwcus yn hynny o beth. Ond mae rhai wedi bod yn llai cefnogol, gan wrthod fy niagnosis o anhwylder deubegynol yn llwyr – galla’ i ond ystyried mai diffyg dealltwriaeth sydd i gyfrif am hyn. 

“Wedi f’ysgogi gan fy mhrofiadau cynnar o deimlo ar goll ac ar fy mhen fy hun, doedd dim rhaid i mi feddwl dwywaith cyn ymrwymo i ddod yn hyrwyddwr ymchwil. Yr unig ffordd y byddwn ni’n mynd i’r afael â chlefydau fel anhwylder deubegynol yw trwy eu deall, felly os galla’ i roi ychydig o amser nawr i wneud gwahaniaeth i bobl mewn efallai 10 neu 20 mlynedd, yna pam lai? 

“Yn fuan ar ôl i mi ymuno, fe benderfynodd fy ngwraig, Lydia, ei bod hithau hefyd eisiau chwarae rhan a daeth yn ‘gymdeithes’. Roedd hi eisiau gwneud rhywbeth ymarferol ac, ar ôl fy ngweld i’n ymuno, roedd hi’n gwybod bod y broses yn un syml iawn. Fe gafodd ei chyfweld gan un o’r ymchwilwyr, a rhoddodd sampl gwaed fach. Mater o funudau yn unig.

“Mae bod yn hyrwyddwr wedi fy newid rhyw fymryn. Dwi nawr yn teimlo fy mod i wedi fy ngrymuso i siarad am iechyd meddwl. Er nad ydw i’n mynd ati’n benodol i siarad am anhwylder deubegynol, dwi’n hapus iawn i ateb cwestiynau a chwalu mythau. 

“A chyn belled â dwi a’r dyfodol yn y cwestiwn? Dwi’n gobeithio byw bywyd sefydlog. Dydy hi ddim bob amser yn hawdd, a dwi dal yn cael amseroedd anodd. Dydw i ddim eisiau bod ag anhwylder deubegynol, ond dwi’n derbyn y bydd bob amser yn rhan ohona’ i a dwi’n dysgu i fyw efo fo.”


Cyhoeddwyd gyntaf: @YmchwilCymru Rhyfin 1, Hydref 2016