Ecsosomau Therapiwtig fel Triniaeth Newydd ar gyfer Canser yr Ofari

Crynodeb diwedd y prosiect

Cefndir

  • Mae celloedd yn gallu secretu fesiclau o'r enw ecsosomau i drosglwyddo gwybodaeth benodol o gelloedd rhoddwyr i gelloedd targed, gan arwain at ail-raglennu’r celloedd derbyn.
  • Mae ecsosomau sy'n deillio o gelloedd iach yn ymwneud â phroses ffisiolegol gan gynnwys atal twf celloedd canser tra bod ecsosomau sy'n deillio o gelloedd tiwmor yn gysylltiedig â phrosesau patholegol a gellir eu defnyddio ar gyfer canfod a monitro clefydau.
  • Mewn canser yr ofari, a nodweddir gan brognosis gwael a diffyg biomarcwyr afiechyd, mae ecsosomau yn cyfryngu twf canser, metastasis ac ymwrthedd i gemotherapi, felly penderfynwyd nodweddu ecsosomau canser yr ofari i asesu eu potensial biomarcwyr. Ar y llaw arall, cafodd ecsosomau nad ydynt yn deillio o diwmor (therapiwtig) eu gwerthuso i bennu potensial therapiwtig.

Prif ganfyddiadau  

  • Optimeiddio offer puro a nodweddu ecsosom gan ddefnyddio llinellau celloedd canser yr ofari sy'n gwrthsefyll cisplatin ac sy’n sensitif i cisplatin a samplau clinigol. Effaith: dilysu protocolau a thechnegau newydd ar gyfer ymchwil ecsosom a datblygu cyffuriau.
  • Mae modelau in vitro i astudio clefyd canser yr ofari yn dylanwadu ar secretiad ecsosomaidd a chargo gydag ecsosomau o gelloedd a dyfir fel sfferoidau tiwmor sy'n cynnwys ecsosomau cargo tebyg o samplau clinigol. Effaith: Yn natblygiad cyffuriau cyn glinigol, darganfyddiad biomarcwyr a lleihad o ran arbrofion anifeiliaid trwy ddefnyddio sfferoidau tiwmor i ddad-risgio datblygiad ecsosomau therapiwtig a biofarcwyr.
  • Mae ecsosomau sy'n deillio o gelloedd ofarïaidd a peritoneol, samplau hylif ascites a serwm gan gleifion canser yr ofari yn sylweddol wahanol o ran morffolegol, marcwyr arwyneb, potensial derbyn a chargo o ecsosomau wedi'u secretu o samplau ofarïaidd a serwm wedi'u neilltuo oddi wrth gleifion iach. Effaith datblygu clinigol a chyffuriau:  Gellir defnyddio cargo RNA o ecsosomau gan gleifion canser yr ofari fel biomarcwr afiechyd. Potensial i ddefnyddio ffracsiynau ecsosomaidd gyda'r capasiti derbyn gorau i gludo cyffuriau cemotherapiwtig i gynyddu effeithiolrwydd therapiwtig.
  • Nodi ffracsiwn arweiniol o ecsosomau therapiwtig sy'n effeithiol wrth ladd celloedd canser yr ofari gan gynnwys celloedd canser yr ofari sy'n gwrthsefyll cisplatin. Effaith: Potensial i gael ei ddatblygu fel opsiwn triniaeth newydd i gleifion canser yr ofari. Gall hyn wella cyfraddau goroesi pan nad yw triniaethau presennol yn gweithio mwyach a gwella ansawdd bywyd cleifion canser a'u teuluoedd.
Wedi'i gwblhau
Research lead
Yr Athro Deyarina Gonzalez
Swm
£65,995
Statws
Wedi’i gwblhau
Dyddiad cychwyn
1 Hydref 2016
Dyddiad cau
1 Hydref 2019
Gwobr
Health PhD Studentship Scheme
Cyfeirnod y Prosiect
HS-16-38
UKCRC Research Activity
Detection, screening and diagnosis
Research activity sub-code
Evaluation of markers and technologies