
Amanda Edwards
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arloesi a Gwella
Ymunodd Amanda â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yn 2014 ac mae wedi ymgymryd â rolau amrywiol ym meysydd comisiynu, gweithrediadau a’r gweithlu. Hi ydy’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arloesi a Gwella ar hyn o bryd, sy’n galw am orchwylio Ymchwil a Datblygu ar gyfer y Bwrdd Iechyd. Mae’n arwain swyddogaeth gwella gwasanaethau BIAP i ddarparu’r fframwaith, trefniadau rheoli rhaglenni a chefnogi prosiectau i hyrwyddo newid clinigol penodol, cymhleth y system gyfan ac i drawsnewid gwasanaethau clinigol sy’n gwasanaethu poblogaeth wledig, yn unol â’r Strategaeth Iechyd a Gofal ar gyfer Powys.
Mae Amanda wedi gweithio ledled y sector cyfiawnder troseddol ac yn GIG Lloegr lle bu’n Arweinydd Gwella a Chomisiynu Gwasanaethau ar draws Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Swydd Henffordd.