Menyw feichiog

Effaith cyffuriau epilepsi ar fabanod yn y groth a chanlyniadau profion ysgol sy’n sylweddol waelach

Mae ymchwil epilepsi, fu’n defnyddio Banc Data Diogel ar gyfer Cysylltiadau Gwybodaeth Ddienw (SAIL), wedi darganfod bod yna gysylltiad rhwng effaith chyffuriau epilepsi ar fabanod yn y groth a chanlyniadau profion ysgol arwyddocaol waelach ymysg plant saith oed.

Bu Arron Lacey, ymchwilydd ym Mhrifysgol Abertawe, a’i dîm yn astudio mamau ag epilepsi. Cofnodwyd y math o gyffur epilepsi a oedd wedi’i ragnodi iddyn nhw pan roedden nhw’n feichiog ac yna dadansoddwyd canlyniadau profion ysgol eu plant fel rhan o’r astudiaeth, a gyhoeddwyd ar-lein yn y BMJ Journal of Neurology, Neurosurgery and Psychiatry.

Mae Banc Data SAIL yn casglu gwybodaeth  am ofal iechyd fel mater o drefn, a defnyddiwyd hon a data profion ysgolion cenedlaethol yng Nghyfnod Allweddol 1 i gymharu perfformiad academaidd plant saith oed yng Nghymru a oedd wedi’u geni i famau ag epilepsi â’r grŵp rheolaeth cyfatebol.

Meddai Arron: “Pan mae babanod yn y groth yn dod i gysylltiad  â chyffuriau gwrth-epileptig cyfunedig, neu sodiwm falproat ar ei ben ei hun, gwelir gostyngiad sylweddol yng nghyrhaeddiad plant mewn profion addysgol cenedlaethol ar gyfer plant 7 oed o’u cymharu â’r grŵp rheolaeth cyfatebol a chyfartaledd cenedlaethol Cymru gyfan.

“Mae’r canlyniadau hyn yn cefnogi ymhellach effeithiau gwybyddol a datblygiadol dod i gysylltiad yn y groth â sodiwm falproat, yn ogystal â chyffuriau gwrthfiotig lluosog; dylid cydbwyso’r cyffuriau ag angen merched sy’n feichiog i reoli trawiadau’n effeithiol.”

Mae Arron yn rhan o Dîm Ymchwil Prudent Healthcare a Grŵp Ymchwil Niwroleg Abertawe sy’n cynnwys dadansoddwyr, clinigwyr ac academyddion SAIL.  Maen nhw’n cynnal ymchwil yn defnyddio banc data SAIL yn ogystal â dadansoddi testun anffurfiol mewn cofnodion meddygol.

Mae’r tîm eisoes wedi cyhoeddi nifer o astudiaethau wedi’u seilio ar y boblogaeth i archwilio effeithiau epilepsi ar amddifadedd cymdeithasol ac effeithiau cyffuriau epilepsi, yn ogystal â thueddiadau rhagnodi ar gyfer epilepsi. Mae hefyd yn defnyddio prosesau iaith naturiol (NLP) i dynnu data clinigol o lythyrau clinig ar gyfer ymchwil epilepsi.


Cyhoeddwyd gyntaf: @YmchwilCymru Rhyfin 4, Mehefin 2018