Beth yw effeithiolrwydd cynlluniau cymorth ariannol ar gyfer unigolion y gofynnir iddynt hunanynysu ar ôl cael prawf Covid positif neu gyswllt positif?

Cefndir

Anogwyd pobl a oedd wedi cael prawf COVID-19 positif i hunanynysu neu ‘fynd dan gwarantin’ i osgoi lledaenu’r haint ymhellach o fewn y boblogaeth ehangach. Cynigiwyd dulliau cymorth ariannol  weithiau i gefnogi pobl i ynysu, ond roedd eu heffeithiolrwydd yn anhysbys i raddau helaeth.

Nod

Nod yr adolygiad hwn oedd darganfod pa mor effeithiol oedd y mesurau ariannol hyn i gefnogi pobl i gydymffurfio, i leihau’r trosglwyddo a, thrwy hynny, lleihau lefelau’r haint.

Dull

Ar ôl adolygu llenyddiaeth sy’n bodoli, darganfuwyd bod 9 astudiaeth yn berthnasol i’r cwestiwn arfaethedig, ac roedd 7 o’r rhain yn uniongyrchol gysylltiedig â’r pandemig COVID-19. Roedd y 2 a oedd yn weddill wedi’u gosod yng nghyd-destun pandemig ‘ffliw moch’ 2009.

Ansawdd y Dystiolaeth

Roedd y sylfaen dystiolaeth o 9 astudiaeth ar gyfer yr adolygiad hwn yn fach.

Yn anffodus, nid oedd unrhyw un o’r astudiaethau a ddarganfuwyd wedi’u seilio yn y DU, sy’n cyfyngu ar y perthnasedd ar gyfer lleoliadau yn y DU.  Roedd pob astudiaeth wedi’i hysgrifennu yn Saesneg. Roedd trylwyredd gwyddonol y dulliau a ddefnyddiwyd yn cyfyngu ar ansawdd yr astudiaethau.

Canlyniadau

Daeth 6 o’r astudiaethau i’r casgliad bod cymorth ariannol yn gysylltiedig â chydymffurfio gwell â chanllawiau ynysu. Roedd y papurau a oedd a wnelo a’r pandemig ffliw moch yn awgrymu bod cymorth ariannol a gwell gwybodaeth am gyfyngu cymdeithasol hefyd yn gysylltiedig â chydymffurfio gwell.

Roedd astudiaeth economaidd yn dangos bod gan raglenni cymorth botensial i fod yn ymyriadau cost-effeithiol ar gyfer hybu cydymffurfio.

Casgliad

Er bod yna rywfaint o dystiolaeth i awgrymu bod cymorth ariannol ar gyfer ynysu’n gallu cynyddu’r cydymffurfio, cyfyngu ar ymgysylltu cymdeithasol a lleihau lefelau haint, byddai angen rhagor o ymchwil i gadarnhau hyn. Felly hefyd, nid oedd yr astudiaethau’n dangos yn glir swm y cymorth ariannol sydd ei angen i wneud yr ymyrraeth yn llwyddiannus.

Nid oedd yna unrhyw dystiolaeth ynglŷn ag effeithiolrwydd cymorth ariannol ar gyfer poblogaethau dan anfantais y mae gofyn iddyn nhw ynysu nac unrhyw ddealltwriaeth o effaith cymorth ariannol ar gydraddoldeb. Felly, mae’r perthnasedd yn y byd real sy’n gallu deillio o hyn yn gyfyngedig.

Gwaith Pellach

Dylai diffyg ymchwil wedi’i seilio yn y DU, ac ymchwil ar sail cymorth i boblogaethau dan anfantais yn y maes hwn, fod yn ffocws allweddol i ymchwiliadau yn y dyfodol. Byddai hyn yn helpu i ddarparu dealltwriaeth well o gynlluniau cymorth ariannol yn y DU ar gyfer unigolion y mae gofyn iddyn nhw hunanynysu.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Awdur cryno: Sally Anstey, cynrychiolydd y Claf a'r Grŵp Cyhoeddus

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR00020