Effeithiolrwydd clinigol a chost rhaglen ymarfer corff cynnar ar boen cronig ac ansawdd bywyd, sy'n gysylltiedig ag iechyd yn dilyn trawma pŵl ar wal y frest: Treial rheoledig cyfochrog, ar hap (treial ELECT2)

Crynodeb diwedd y prosiect:

Beth wnaethom, a pham wnaethom hynny

Gwyddom o ymchwil blaenorol fod poen cronig (poen sy’n parhau dros 3 mis ar ôl anaf) ac ansawdd bywyd gwael sy'n gysylltiedig ag iechyd yn cael ei adrodd gan dros draean o gleifion sy'n oedolion ac sydd ag anaf i'w asennau. Er gwaethaf hyn, does dim tystiolaeth o gefnogi'r driniaeth ffisiotherapi a roddir i'r cleifion hyn yn yr ysbyty.  Gwnaethom brofi a allai rhaglen ymarfer corff sy'n cynnwys symudiadau syml i’r bongorff a’r ysgwyddau leihau cyfradd poen cronig a gwella ansawdd bywyd sy'n gysylltiedig ag iechyd yn y cleifion hyn. Mewn chwe ysbyty, cafodd 360 o gleifion ag anafiadau i'w hasennau eu rhannu'n ddau grŵp; un a gwblhaodd y rhaglen ymarfer corff ac un na wnaeth.  Roedd y ddau grŵp yn dal i dderbyn triniaeth ffisiotherapi arferol arall.  Cwblhaodd pob claf holiaduron wrth gael eu derbyn i'r ysbyty ac eto dri mis yn ddiweddarach, i ddweud wrthym am eu poen ac ansawdd bywyd sy'n gysylltiedig ag iechyd. Edrychom hefyd a oedd y rhaglen yn gost effeithiol, ac a oedd cleifion a ffisiotherapyddion yn ei hoffi ai peidio. 

Prif Negeseuon:

  • Dywedodd 71% o gleifion wrthym faint o'r rhaglen ymarfer corff yr oeddent wedi'i chwblhau.  Dim ond 23% o'r cleifion hyn wnaeth gwblhau'r rhaglen gyfan.
  • Erbyn tri mis, roedd lefelau poen cronig ac ansawdd bywyd gwael a adroddwyd gan gleifion yn isel iawn.  Mae hyn yn awgrymu bod y rhan fwyaf o gleifion wedi gwella'n llwyr. 
  • Canfuom efallai na fyddai'r rhaglen ymarfer corff wedi helpu adferiad i rai cleifion. Adroddwyd am boen cronig gan 28.3% o'r cleifion hynny a gwblhaodd y rhaglen ymarfer corff, a 16.9% o'r rhai nad oeddent wedi ei chwblhau. 
  • Roedd y rhaglen ymarfer corff yn ddiogel.  Ni adroddwyd unrhyw wahaniaethau yng nghyfradd y problemau (yn ymwneud â'r treial) rhwng y ddau grŵp.  
  • Roedd cleifion yn teimlo bod y rhaglen ymarfer corff yn ddefnyddiol ac yn hawdd i'w dilyn, er ei bod hi'n bosib ei bod wedi dechrau'n rhy gynnar ar ôl eu hanaf. 
  • Dywedodd y ffisiotherapyddion fod y rhaglen yn syml.  Roeddent hefyd yn teimlo i rai cleifion bod y rhaglen wedi dechrau’n rhy gynnar ar ôl eu hanaf. 
  • Nid yw'r rhaglen ymarfer corff yn gost-effeithiol i gleifion sydd â thrawma pŵl ar wal y frest.
Wedi'i gwblhau
Research lead
Yr Athro Ceri Battle
Swm
£229,874
Statws
Wedi’i gwblhau
Dyddiad cychwyn
1 Hydref 2021
Dyddiad cau
30 Medi 2023
Gwobr
Research for Patient and Public Benefit (RfPPB) Wales
Cyfeirnod y Prosiect
RfPPB-20-1738
UKCRC Research Activity
Evaluation of treatments and therapeutic interventions
Research activity sub-code
Physical