Effeithiolrwydd mesurau atal a rheoli haint a ddefnyddir mewn lleoliadau addysg a gofal plant ar gyfer plant: crynodeb ac arfarniad beirniadol

Pa mor effeithiol ydy mesurau a gymerir i atal a rheoli haint COVID-19 mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant?

Mae amrywiaeth o fesurau i leihau lledaeniad COVID-19 wedi'u cyflwyno mewn ysgolion a lleoliadau addysg ledled y byd.

Nod yr adolygiad hwn oedd darganfod ac archwilio’r dystiolaeth i asesu pa mor effeithiol y mae’r mesurau rheoli wedi bod.  Byddai hyn yn helpu Llywodraeth Cymru i benderfynu pa fesurau y dylid dal atyn nhw mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant wrth i’r pandemig barhau.

Cymerwyd y dystiolaeth ddibynadwy ddiweddaraf o adolygiad cenedlaethol o astudiaethau ymchwil ym mis Gorffennaf 2021, yn UDA yn bennaf.

Gwnaeth y canlyniadau ddangos:

  • Pan ddefnyddiwyd mesurau rheoli haint mewn ysgolion cynradd a lleoliadau gofal dydd, roedd y risg o ledaenu’r feirws o blentyn i blentyn, neu o blentyn i oedolyn, yn isel.
  • Mewn ysgolion uwchradd, roedd y risg o ledaenu’r feirws yn amrywio mwy, gan ddibynnu ar weithgareddau disgyblion y tu allan i’r ysgol ac ar p’un a oedd disgyblion yn glynu at y rheolau ai peidio.
  • Defnyddiwyd amrywiaeth eang o fesurau i reoli lledaeniad.  Mae cyfuniadau gwahanol o ddulliau a ddefnyddiwyd yn ei gwneud hi’n anodd beirniadu pa mor effeithiol oedd dulliau unigol.
  • Roedd yna lai o ledaenu pan ddefnyddiwyd nifer o ddulliau rheoli gyda’i gilydd. 
  • Roedd gorchuddion wyneb yn lleihau’r lledaenu mewn ysgolion uwchradd, er nad oedd hyn bob amser yn wir mewn ysgolion cynradd.

Roedd yna gysylltiad hefyd rhwng llai o ledaenu a:

  • Chadw 1 metr ar wahân (yn enwedig ymhlith staff)
  • Cyfyngu ar fynediad ymwelwyr â’r ysgol
  • Canslo clybiau ar ôl ysgol
  • Sgrinio symptomau bob dydd
  • Cynnal gwersi yn yr awyr agored

Nid oedd darganfyddiadau ynglŷn ag effeithiau maint y dosbarth ac awyru cynyddol ar ledaenu’r feirws yn gyson.  Yn wir, darganfuwyd bod dysgu wyneb yn wyneb rhan-amser yn cynyddu’r lledaeniad o’i gymharu â dysgu wyneb yn wyneb amser llawn.

Nid oedd yna ddigon o ddata i feirniadu a oedd brechiadau staff neu ddisgyblion yn effeithiol wrth leihau lledaeniad y feirws yn yr ysgolion a’r lleoliadau gofal plant hyn.

Isel yw dibynadwyedd cyffredinol y canlyniadau ymchwil hyd yma, ond bydd hyn yn gwella wrth i ganlyniadau pellach gael eu cyhoeddi. 

Camau Gweithredu yn y Dyfodol:

  • Dylid defnyddio nifer o ddulliau o reoli lledaeniad gyda’i gilydd mewn ysgolion.
  • Dylid astudio canlyniadau ymchwil yn y dyfodol i ddarparu gwybodaeth newydd am ddulliau rheoli sy’n addas i’w defnyddio gyda grwpiau anodd i’w cyrraedd a lleoliadau addysg arbenigol. Mae’n bosibl y bydd angen newidiadau hefyd os daw amrywiolion COVID newydd i’r fei

Darllenwch yr adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR00011