Effeithiolrwydd monitro gartref gan ddefnyddio ocsimetreg pwls mewn pobl â symptomau COVID-19 i arwain y ffordd o’u rheoli yn y dyfodol

Ydy mesur lefelau ocsigen yn y gwaed gartref yn helpu i dywys triniaeth ar gyfer pobl â symptomau COVID-19?

 

Mae rhai cleifion sydd ag achos tybiedig neu wedi’i gadarnhau o COVID-19 yn cael eu trin gartref i gyfyngu ar ledaeniad y feirws ac i gadw gofal yn yr ysbyty wrth gefn ar gyfer y rheini sydd â’r angen mwyaf amdano. Mae defnyddio dyfais o’r enw ocsifesurydd yn un ffordd o fonitro cleifion gartref. Mae’r ocsifesurydd yn syml i’w ddefnyddio. Mae’n cael ei glipio ar flaen bys ac mae’n mesur lefelau’r ocsigen yn y gwaed. Yna, mae meddyg yn gallu defnyddio’r mesuriadau hyn i helpu i benderfynu ar unrhyw driniaeth bellach ac i benderfynu a oes angen i’r claf fynd i mewn i’r ysbyty.

Mae’r adolygiad hwn yn edrych ar wybodaeth sydd wedi’i chyhoeddi am ddefnyddio ocsifesuryddion i weld a oes yna unrhyw dystiolaeth eu bod yn ddefnyddiol wrth ofalu am gleifion â COVID-19 gartref.

Darganfyddiadau Allweddol

  • Mae un canllaw a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021 ar drin cleifion COVID-19 yn awgrymu bod yna wahanol fathau o ocsifesuryddion sy’n gallu bod yn amrywiol eu canlyniadau.
  • Nododd yr adolygiad diweddaraf bod angen i feddygon fod yn ofalus wrth ddehongli canlyniadau. Roedd hefyd yn awgrymu bod angen mwy o ymchwil i ddeall y mesurau diogelwch sydd eu hangen a beth y dylid ei wneud wrth ofalu am gleifion â COVID gartref.
  • Mae yna ddiffyg tystiolaeth o ba mor effeithiol ydy cymwysiadau ffôn clyfar pan maent yn cael eu defnyddio fel ocsifesuryddion.

Ers mis Mawrth 2021, cyfyngedig yw’r astudiaethau sydd wedi’u cyhoeddi, gyda deilliannau cymysg.  Mae un adolygiad yn dal i fynd rhagddo a bwriedir ei gwblhau ym mis Awst 2021.

Ar hyn o bryd, mae yna dal gwestiynau ynglŷn â diogelwch a chost monitro gartref gan ddefnyddio ocsifesuryddion.

Nid yw’n glir a fyddai’r newidiadau mewn gofal cleifion yn cyfiawnhau cost prynu’r offer a monitro’r canlyniadau.

Mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru wedi penderfynu nad oes yna ddigon o ymchwil newydd ar hyn o bryd i gwblhau adolygiad pellach yn y dyfodol agos.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RES00005