Effeithiolrwydd ymyriadau cyflenwi gwasanaeth ar gyfer cleifion orthopaedig sy’n oedolion ar restr aros llawdriniaethau Rhif adroddiad
Pa ddulliau a ellir eu defnyddio i leihau amseroedd aros ar gyfer llawdriniaeth orthopedig?
Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio'n wael ar lawdriniaeth ysbyty wedi’i chynllunio ledled y byd. Erbyn mis Awst 2021 roedd rhestrau aros yng Nghymru wedi cynyddu i 657,539. Mae'r cyhoedd a'r GIG yn bryderus iawn ynghylch ymestyn amseroedd aros ar gyfer llawdriniaethau nad ydynt yn rhai brys. Mae'r ymchwil hwn yn edrych ar ffyrdd o gynyddu effeithlonrwydd y gwasanaeth i helpu i leihau'r ôl-groniad i oedolion ar restr aros llawdriniaethau orthopedig.
Dewiswyd 17 o astudiaethau yn defnyddio tri phrif ddull gweithredu mewn amrywiaeth o wledydd. Edrychodd yr astudiaethau ar ystod o weithdrefnau llawfeddygol ac roedd yn amrywio o 42 i 12,030 o gleifion yn cymryd rhan. Y tri dull gwahanol oedd:
- Defnyddio dulliau sefydledig* i wella effeithlonrwydd
- Ailgynllunio llwybr y claf
- Dyrannu mwy o adnoddau
Archwiliwyd y canlyniadau i gymharu amseroedd aros, pa mor aml y perfformiwyd y gweithdrefnau llawfeddygol, cyfraddau canslo llawdriniaethau a nifer y llawdriniaethau a berfformiwyd.
Awgrymodd canlyniadau'r astudiaethau hyn y gellid gwella perfformiad ym mhob achos.
O ganlyniad i’r newidiadau a gyflwynwyd roedd theatrau llawdriniaeth yn gweithio'n fwy effeithlon. Gostyngodd amseroedd aros ac amseroedd gweithdroadau. Canfuwyd mewn rhai astudiaethau hefyd fod boddhad cleifion yn cynyddu a’u bod yn fwy parod i dderbyn amseroedd aros.
Cyhoeddwyd y rhan fwyaf o astudiaethau rhwng 2004 a 2017, felly cynhaliwyd pob un ohonynt cyn i'r pandemig ddechrau. Roedd cyfyngiadau hefyd o ran sut y cynhaliwyd yr astudiaethau a oedd yn ei gwneud yn anodd gwybod pa mor ddibynadwy oedd y canlyniadau. Nid yw'n hysbys a fydd dulliau newydd a gyflwynir o ganlyniad i'r astudiaethau hyn yn llwyddiannus yn ystod neu ar ôl y pandemig.
Fodd bynnag, teimlir y gellir dysgu gwersi o'r astudiaethau hyn o hyd a'u cymhwyso i'r sefyllfa bresennol, ond bydd hyn yn cynnwys-
- Derbyn y bydd angen ymdrech tîm i ddod o hyd i ateb er mwyn lleihau'r ôl-groniad gyda llawer o wahanol feysydd yn gweithio gyda'i gilydd ac yn ystyried y sefyllfa leol.
- Ystyried yr holl ddulliau a ddefnyddir yn yr astudiaethau hyn i wella amseroedd aros.
- Rhagor o werthuso ac ymchwil i sut y gallai'r strategaethau hyn weithio mewn sefyllfa pandemig er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol.
*Lean: staff yn gweithio gyda'i gilydd i nodi'r hyn sy'n wirioneddol bwysig i'r claf a hepgor unrhyw weithgareddau nad ydynt yn bwysig.
Six Sigma: defnyddio gwybodaeth fanwl i sicrhau bod prosesau'n cael eu rheoli a'u bod yn gyson.
RR00008