Effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a diogelwch dulliau diheintio SARS-CoV-2 (gan gynnwys peiriannau osôn) mewn lleoliadau addysgol ar gyfer plant a phobl ifanc

Pa mor ddiogel ac effeithiol ydy dulliau diheintio ar gyfer COVID-19 a ddefnyddir mewn ysgolion a cholegau ar gyfer plant a phobl ifanc

Mae yna nifer o ffyrdd o ddiheintio’r aer neu arwynebau mewn lleoliadau addysgol.  Gall y rhain ddefnyddio math o olau, nwy llaith (hydrogen perocsid) neu nwy sych (osôn).  Mae’n bwysig darganfod pa mor dda y mae’r rhain yn gweithio wrth leihau lledaeniad y feirws a darganfod a ydyn nhw’n creu unrhyw risgiau iechyd i’r disgyblion ai peidio.

Roedd y canlyniadau ynglŷn â pha mor effeithiol oedd y dulliau hyn yn dangos:

  • Y gellid dod o hyd i ddarnau o’r feirws ar arwynebau a oedd wedi’u trin saith diwrnod ar ôl eu glanhau, ond nid oedd yn hysbys a allai’r rhain dal achosi haint.
  • Y gallai osôn, golau neu nwy hydrogen perocsid anactifadu'r feirws mewn arbrofion labordy, ond nid oedd hyn wedi’i brofi mewn amgylcheddau byd go iawn.
  • Os oedd rhywun â COVID-19 wedi bod mewn ystafell ac wedi’i gadael, isel iawn oedd y risg y byddai unrhyw un yn dal y feirws 72 awr yn ddiweddarach.  Roedd hyn yn wir p’un a oedd yr ystafell wedi’i glanhau ai peidio.

Roedd materion yn ymwneud â diogelwch a oedd yn gysylltiedig ag osôn yn achosi pryder mawr.  Dangosodd y canlyniadau:

  • Fod dod i gysylltiad ag osôn yn y tymor byr, ar lefelau isel iawn, yn gallu achosi problemau anadlu. Roedd plant ag asthma mewn risg fwy.
  • Bod nwy osôn yn wenwynig iawn mewn crynoadau uchel. Mae angen selio ystafelloedd sy’n defnyddio peiriannau osôn i atal y nwy osôn rhag dianc.
  • Gall osôn adweithio â deunyddiau eraill i ffurfio cemegyn arall sy’n beryglus i iechyd.

Roedd yna bryderon hefyd ynglŷn â chael gwared ag osôn yn ddiogel ar ôl glanhau, mesur faint roedd disgyblion yn dod i gysylltiad â’r nwy a hyfforddi staff i ddefnyddio’r diheintydd.  Mae dau gorff diogelwch dibynadwy wedi datgan nad yw osôn wedi’i argymell ar hyn o bryd ar gyfer glanhau’r aer nes y gellir profi ei fod yn ddiogel i’w ddefnyddio.

I grynhoi, mae yna ddiffyg tystiolaeth bod osôn yn ddiheintydd effeithiol a diogel.  Mae yna dystiolaeth bositif bod osôn yn niweidiol i iechyd plant a phobl ifanc. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn golygu na ellir ei argymell ar hyn o bryd fel diheintydd mewn ysgolion a cholegau.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RES00023