Ei Roi Ar Goedd – strategaeth newydd yn nodi newid sylweddol mewn sicrhau bod darganfyddiadau ymchwil iechyd ar gael i’r cyhoedd
22 Gorffennaf
Mae’r Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) heddiw (30 Gorffennaf) yn lansio strategaeth newydd i sicrhau bod gwybodaeth am bob ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol – gan gynnwys ymchwil COVID-19 – yn cael ei rhoi ar goedd er budd cleifion, ymchwilwyr a llunwyr polisi.
Mae pandemig COVID-19 wedi dwyn sylw at bwysigrwydd rhannu manylion yr ymchwil sy’n mynd rhagddi – er mwyn deall y feirws a dod o hyd i brofion, triniaethau a brechlynnau – fel bod canlyniadau’n gallu darparu sail ar gyfer gofal o’r ansawdd gorau a mesurau atal. Mae hyn hefyd yn golygu nad ydy ymchwilwyr yn dyblygu ymdrechion a’u bod nhw’n gallu adeiladu ar waith pobl eraill tra bo’r cyhoedd yn gallu gweld pa ymchwil sy’n mynd rhagddi.
Nawr, nod strategaeth Ei Roi Ar Goedd ydy adeiladu ar yr arfer da hwn a’i gwneud hi’n haws i ymchwilwyr fod yn dryloyw ynglŷn â’u gwaith.
Diben y strategaeth, a gyflenwyd gan yr HRA mewn partneriaeth ag Ymchwil GIG yr Alban (NRS), Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon, ydy gwneud tryloywder yn beth arferol ym maes ymchwil a gwneud gwybodaeth yn fwy gweladwy i’r cyhoedd. Bydd mesurau newydd y manylir arnyn nhw yn y strategaeth yn gwneud pethau’n fwy tryloyw ac agored mewn astudiaethau iechyd a gofal cymdeithasol trwy:
- Ddisgwyl i ymchwilwyr gynllunio’r ffordd y byddan nhw’n rhoi gwybod i’r rheini fu’n cymryd rhan mewn ymchwil am ddarganfyddiadau’r astudiaeth o’r cychwyn cyntaf
- Cyflwyno gwaith monitro ychwanegol i wneud yn siŵr bod ymchwilwyr yn adrodd ar ganlyniadau ac i gasglu wybodaeth am ddarganfyddiadau astudiaethau
- Sicrhau bod gwybodaeth am brosiectau ymchwil unigol – a’u perfformiad o ran bod yn dryloyw – ar gael i’r cyhoedd
- Cyflwyno system i ystyried perfformiad o ran bod yn dryloyw yn y gorffennol wrth adolygu astudiaethau newydd i’w cymeradwyo ac, yn y dyfodol, cyflwyno cosbau
Datblygwyd y strategaeth dan oruchwyliaeth grŵp o arbenigwyr o ledled y DU, a gadeiriwyd gan yr Athro Andrew George, a lluniwyd hi ar sail ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yr haf diwethaf. Trwy’r strategaeth, mae’r HRA wedi ymrwymo i helpu ymchwilwyr i fod yn dryloyw a hefyd i gymryd camau pan nad ydyn nhw'n cyrraedd y safonau. Meddai’r Athro George:
‘Yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus, gwnaethon ni glywed oddi wrth gannoedd o ymchwilwyr a noddwyr, cleifion a chyfranogion, arianwyr a chofrestrfeydd sydd, fel y ni, yn frwd dros fod yn dryloyw ac yn agored ym maes ymchwil. Mae’n amser newid pethau; cael gwell cefnogaeth ac anogaeth i ymchwilwyr a noddwyr ymchwil, bod yn fwy gweladwy i gleifion a’r cyhoedd a chael canlyniadau teg i’r rheini nad ydyn nhw’n cymryd tryloywder o ddifrif.’
Meddai’r Athro Chris Whitty, Prif Swyddog Meddygol Lloegr, wrth gyflwyno’r strategaeth:
“Mae bod yn dryloyw ac yn agored yn hanfodol i sicrhau cymaint o ymrwymiad â phosibl gan gleifion, defnyddwyr gwasanaeth a gwirfoddolwyr iach sy’n cymryd rhan mewn ymchwil. Trwy ledaenu darganfyddiadau ymchwil yn eang, rydyn ni hefyd yn galluogi ymchwil bellach ac yn darparu sylfaen dystiolaeth gref ar gyfer comisiynu gwasanaethau a llunio polisi iechyd a gofal. Mae strategaeth Ei Roi Ar Goedd yn arwydd o’n dyhead ar gyfer tryloywder ymchwil yn y DU. Mae ei gweledigaeth o sicrhau bod gwybodaeth y gellir ymddiried ynddi o astudiaethau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ar gael i’r cyhoedd, er budd pawb, yn un y gallwn ni i gyd ei rhannu.”
Daw’r strategaeth newydd mewn ymateb i adroddiad a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ’r Cyffredin yn 2018, a nododd fylchau yn y drefn adrodd ar dreialon clinigol. Nid yw 20% o dreialon clinigol sy’n cael eu cynnal yn y DU yn ymddangos ar gofrestr gyhoeddus*, ac nid yw 25% o dreialon clinigol sy’n edrych ar feddyginiaethau’n cyhoeddi canlyniadau’n brydlon**.
Mae sefydliadau ar draws y sector ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol – cyrff ariannu ymchwil, ysbytai ac elusennau meddygol – yn cefnogi’r strategaeth.
Meddai Juliet Tizzard, Cyfarwyddwr Polisi yn yr HRA:
‘Mae strategaeth Ei Roi Ar Goedd yn fwy na jest strategaeth i’r Awdurdod Ymchwil Iechyd. Mae wedi’i llunio gan y rheini y bydd yn effeithio arnyn nhw ac mae wedi’i seilio ar weledigaeth y mae pawb sydd a wnelo ag ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu cytuno iddi, sef bod gwybodaeth y gellir ymddiried ynddi o astudiaethau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ar gael i’r cyhoedd er budd pawb. Rydyn ni nawr yn gweithio gyda chleifion, ymchwilwyr, cyrff ariannu ac eraill i ddylunio’r manylion, fel bod y strategaeth yn creu newid parhaol ar draws ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU.’
Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
“Mae’n falch gennon ni ein bod ni wedi cyfrannu at gyd-ymgynghoriad y DU ar strategaeth Ei Roi Ar Goedd. Mae’n hanfodol ein bod ni’n gwneud darganfyddiadau ymchwil yn fwy hygyrch i'r cyhoedd fel bod gwirfoddolwyr yn cael gwybod canlyniadau’r ymchwil y maen nhw wedi cymryd rhan ynddi, ond hefyd fel eu bod nhw’n cael gwybod sut y gallai eu helpu nhw neu eu teulu a’u ffrindiau yn y dyfodol.
Bu Lynn Laidlaw o Gaeredin, fu’n cyfranogi mewn ymchwil, yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ac mae hi’n cefnogi’r strategaeth derfynol.
Meddai Lynn: ‘Mae pobl sy’n byw â chyflyrau a chyfranogwyr iach sy’n cymryd rhan mewn ymchwil, yn y bôn, yn haeddu cael gwybod y canlyniadau a chael gwybod a fydd yn effeithio ar eu gofal a’u triniaeth yn y dyfodol. Mae’n hanfodol rhoi gwybod iddyn nhw, gan na fyddai’r ymchwil wedi bod yn bosibl hebddyn nhw.
‘Mi gymerais i’r amser i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ‘#EiRoiArGoedd a’r gweithdy yng Nghaeredin gan fy mod i wedi cymryd rhan mewn cryn dipyn o astudiaethau ymchwil, ond dydyn nhw erioed wedi dweud wrtha’ i beth oedd eu canlyniad. Mae hyn yn gwneud i mi deimlo’n drist a hefyd yn ddig, a dwi wedi penderfynu peidio â chymryd rhan mewn rhagor o ymchwil os nad ydy’r ymchwilwyr yn bwriadu rhannu’r canlyniadau ar ddiwedd yr astudiaeth.
‘Mae angen newid mewn diwylliant. Dwi’n cefnogi’r cosbau sydd wedi’u cynnig yn y strategaeth, i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu cael gafael ar wybodaeth bwysig am ymchwil a chanlyniadau astudiaethau. Does yna neb sydd eisiau i ymchwil lwyddo’n fwy na chleifion, ond mae angen ein cynnwys ni i’w gwneud hi’n llwyddiannus.’
Mae’r HRA nawr yn dechrau gwaith i roi’r strategaeth newydd ar waith, gan ddechrau gyda chanllawiau clir i ymchwilwyr a noddwyr, rhaglen fonitro ehangach i sicrhau yr adroddir ar astudiaethau’n gyhoeddus ac i roi gwybod i’r rheini fu’n cymryd rhan yn yr astudiaeth am y canlyniadau. Hefyd, ymhellach i’r dyfodol, bydd yn cyflwyno cosbau i’r broses cymeradwyo ymchwil.
Ewch i www.hra.co.uk/makeitpublic i gael rhagor o wybodaeth.
* Denneny C, Bourne S, Kolstoe SE ‘Registration audit of clinical trials given a favourable opinion by UK research ethics committees’ BMJ Open 2019;9:e026840. doi: 10.1136/bmjopen-2018-026840
**System Tracio Treialon yr UE, EBM DataLab, Prifysgol Rhydychen. Data ar gyfer treialon clinigol ar Gofrestr Treialon Clinigol yr UE gyda noddwr o’r DU, ar 3 Mehefin 2019