Smiling man in room

Eich cyfle chi i siapio cynllun gweithlu fferylliaeth Cymru

17 Mawrth

Rydym wrthi'n ymgynghori ar y prif gamau gweithredu fydd yn sail i’r Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Fferylliaeth yng Nghymru, a byddem yn gwerthfawrogi eich mewnbwn.

Mae’r cynllun strategol yn pennu’r cyfeiriad ar gyfer datblygu gweithlu fferylliaeth sy'n meddu ar y cyfuniad priodol o sgiliau ac sy'n cynnwys digon o weithwyr i ymateb i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol y boblogaeth. Y cynllun gweithlu fferylliaeth strategol dogfen ymgynghoria allwn gyrchu yma Dogfen Ymgynghori Cynllun y Gweithlu Fferylliaeth

Bydd gan y gweithlu fferyllol y gwerthoedd, yr ymddygiadau, y wybodaeth, y sgiliau a’r hyder priodol i gefnogi lles pobl, a bydd pawb yn y gweithlu’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu mewn ymateb i’r camau gweithredu a amlinellir yn Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mae’n cynnwys pob rhan o’r gweithlu sy’n cyfrannu at y gwaith o ddarparu gwasanaethau fferyllol GIG Cymru. 

Er mwyn sicrhau ein bod yn datblygu dull cyfannol o gefnogi ein gweithlu fferylliaeth, mae hyn yn cynnwys timau fferyllol sy'n cael eu cyflogi gan y GIG a’r rheini sy’n cael eu cyflogi gan gontractwyr y GIG.

 

Sut i gymryd rhan

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn ystod y 6 wythnos rhwng 20fed Chwefror a hanner nos ar 2il Ebrill 2023.

Atodir copi o’r ddogfen ymgynghori sy’n cynnwys y camau gweithredu arfaethedig a chopi o gwestiynau’r ymgynghoriad.

Gallwch gyflwyno eich atebion drwy lenwi’r e-ffurflen hon. Does dim rhaid i chi roi eich enw nac unrhyw wybodaeth a fyddai’n datgelu pwy ydych chi wrth lenwi’r e-ffurflen.

Neu, gallwch anfon eich atebion dros e-bost i HEIW.PharmacyWorkforce.wales.nhs.uk defnyddio'r cwestiynau hyn

Rydym hefyd yn cynnal nifer o weithdai ymgynghori rhithwir, yn ogystal ag Uwchgynhadledd ar gyfer y Gweithlu.

 

Ewch i wefan HEIW i archebu eich lle yn y gweithdai ac adolygu'r dogfennau ategol sy'n ymdrin â'r adolygiadau ymchwil, ymgysylltu a data a gynhaliwyd hyd yma.