Dwy nyrs ymchwil yn cerdded i lawr coridor ysbyty

Eich cyfle i lunio'r diwylliant ymchwil yn y GIG

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cynnal gweithdai ledled Cymru i gefnogi datblygiad fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Ymchwil a Datblygu (Y&D) y GIG.

Pam Fframwaith Ymchwil a Datblygu'r GIG?

  • Mae ymchwil yn rhan o weithgareddau craidd y GIG, gan roi mynediad i fwy o gleifion i driniaethau newydd a gwell canlyniadau iechyd. Mae GIG Cymru yn cefnogi ystod eang o ymchwil ar draws pob maes clefyd ac arbenigedd, mewn gofal eilaidd a sylfaenol, ac ym maes iechyd y boblogaeth ac iechyd y cyhoedd.
  • Mae’n amserol ystyried sut beth yw ‘da’ mewn sefydliad GIG sy’n gwneud gwaith ymchwil. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu diwylliant ymchwil cryfach yn GIG Cymru.
  • I wneud hyn, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn datblygu fframwaith ymchwil a datblygu Llywodraeth Cymru i amlinellu rôl GIG Cymru mewn perthynas ag ymchwil.
  • Bydd y Fframwaith yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau'r GIG i helpu i wreiddio ymchwil i wasanaethau gofal iechyd craidd, datblygu diwylliant ymchwil cryf a llunio dangosyddion perfformiad ar gyfer sefydliadau'r GIG sy'n gwneud ymchwil yn y dyfodol..

Sut?

  • Bydd y Fframwaith yn cael ei ddatblygu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru drwy broses o ymgynghori creadigol gyda chydweithwyr yn y GIG a phartneriaid ehangach.
  • Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cynnal pedwar gweithdy wyneb yn wyneb a hwylusir. Mae'r rhain yn cynnig cyfle i chi ddylanwadu ar gynnwys y Fframwaith a'r ffordd y caiff ei weithredu.
  • Rydym yn gwahodd cydweithwyr o bob lefel, cefndir a maes busnes gwahanol megis Ymchwil a Datblygu, Arloesi a Gwella, y Gyfarwyddiaeth Feddygol, Nyrsio a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, Therapïau a Gwyddorau Gofal Iechyd, Cyllid, Cynllunio, Ansawdd a Diogelwch, W&OD, Profiad Cleifion a Gofalwyr.

Pryd?

  • Caiff y Fframwaith ei ddatblygu yn gynnar yn 2023, a chaiff ei lansio gan Lywodraeth Cymru drwy Gylchlythyr Iechyd Cymru ym mis Mawrth, i ddechrau ei roi ar waith ym mis Ebrill 2023.
  • Dyddiadau'r gweithdai yw:

Dyddiad                                      Amser                                  Lleoliad

17 Ionawr                                13:00 – 16:00                      Canofan Dylan Thomas, Abertawe

18 Ionawr                                 13:00 – 16:00                     Venue Cymru, Llandudno

19 Ionawr                                 09.30 - 12.30                      The Metropole Hotel & Spa, Llandrindod Wells

24 Ionawr                                 09.30 - 12.30                      Virtual online event  

Rydym yn gwerthfawrogi eich arbenigedd i sicrhau bod y Fframwaith yn addas at y diben o ran cyflawni ei nodau bwriadedig.

Sut i archebu:

I archebu eich lle yn un o’r gweithdai, e-bostiwch: claire.bond@gov.wales

Dyddiad cau: 30 Tachwedd 2022.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.