Ennill profiad ym mecaneg a logisteg cyflwyno ymchwil

Prif Negeseuon

Pan gefais y wobr amser ymchwil, roeddwn i yng nghamau ysgrifennu fy PhD, y pwnc oedd Nalocson ‘I’w Gymryd Adref’ wedi’i gyflenwi gan Barafeddyg Yr astudiaeth Cydnabyddiaeth Cyn Ysbyty a Gwrthfiotigau ar gyfer Sepsis (neu “PHRASe”), a ariannwyd gan Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd (RfPPB) Cymru, lle’r oeddwn i'n Brif Ymchwilydd a hefyd wedi cwblhau casglu data ar ei gyfer.  

Cyn sicrhau'r wobr, fy mwriad oedd manteisio ar yr amser penodedig, adeiladu ar fy ngwybodaeth a'm profiad ymchwil presennol, yn hytrach na chanolbwyntio ar bwnc penodol.  O safbwynt personol, ni ellir diystyru gwerth cael amser ymchwil penodedig, yn hytrach na chyfnodau manteisgar sy'n agored i wrthdyniadau. 

Prif Allbynnau  

  • Ebrill-Rhagfyr 2019 - Cwblhau PhD ac wedi amddiffyn thesis yn llwyddiannus  
  • Cymrawd Ymchwil Glinigol Anrhydeddus, Prifysgol Abertawe   
  • Fforwm Ymchwil GMB 999 2019, Birmingham – Cyflwyniad poster PhRASe 
  • Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2019, Caerdydd – Cyflwyniad poster PhRASe 
  • Cyfarfod blynyddol Canolfan PRIME Cymru 2019 – Cyflwyniad 'Syniad Peryglus'  
  • Fforwm Ymchwil GMB 999 2020, Brighton – presenoldeb cynhadledd 
  • Fforwm Ymchwil GMB 999 yn trefnu cynadleddau is-grŵp, 2021 a 2022 
  • Cyd-oruchwylio myfyriwr PhD parafeddyg tramor 03/21-08/22  
  • Presenoldeb yng nghynhadledd HSRUK, Gorffennaf 2021 
  • Presenoldeb Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Hydref 2021  
  • Treial dichonoldeb ‘TIME’ (sef Take home naloxone Intervention Multicentre Emergency setting), casglu data / glanhau data a chyflwyniad o 'ffeil hollt' i NWIS / SAIL. 
  • Jones, J., Allen, S., Davies, J. et al. Randomised feasibility study of prehospital recognition and antibiotics for emergency patients with sepsis (PhRASe). Sci Rep11, 18586 (2021). https://doi.org/10.1038/s41598-021-97979-w 
  • Cyflwyniadau I a II ar gyfer 2021/22 galwad Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd – astudiaeth 'RELIEF' 
  • Cyflwyniadau I a II ar gyfer 2022/23 galwad Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd – astudiaeth 'RELIEF' 
  • Panel Blaenoriaethu Cymru Gyfan, Tachwedd 2022   
  • Cynhadledd Agoriadol Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Rhagfyr 2022  
Wedi'i gwblhau
Research lead
Mr Chris Moore
Swm
£45,824
Statws
Wedi’i gwblhau
Dyddiad cychwyn
1 Ebrill 2019
Dyddiad cau
31 Hydref 2022
Gwobr
NHS Research Time Award
Cyfeirnod y Prosiect
CRTA-18-26