Sut mae'r amgylchedd yn y cartref ac o'i gwmpas yn effeithio ar ganlyniadau gofal cymdeithasol ac iechyd i bobl hŷn?
Crynodeb diwedd y prosiect
Prif Negeseuon
Rydym eisiau gwybod a oedd lle'r oedd pobl yn byw wedi dylanwadu a oeddent yn fwy tebygol o gwympo neu fynd i fyw mewn cartref gofal. Gwnaethom ddefnyddio data wedi'i fapio i ddeall pa mor bell yr oedd pobl yn byw o fannau gwyrdd, meddygon teulu, fferyllwyr a pha mor hawdd oedd symud o amgylch eu cymunedau. Cysylltwyd y data hyn â chofnodion iechyd dienw er mwyn deall pa mor aml y mae pobl yn cwympo mewn gwahanol ardaloedd, ac a allai rhai rhannau o’r amgylchedd hybu heneiddio’n iachach. Roeddem hefyd eisiau gwybod pa mor debygol oedd pobl o symud i gartref gofal pe bai ganddynt nodweddion amgylchedd cartref gwahanol, i weld a oes yna rai cymdogaethau a oedd yn caniatáu i bobl aros yn annibynnol yn hirach wrth iddynt heneiddio. Gwnaethom hefyd archwilio sut yr effeithiodd diagnosis dementia ar y risg o gwympo ac o symud i gartref gofal. Ein canfyddiadau oedd:
- Mae lle mae pobl yn byw yn effeithio ar eu risg o gwympo - weithiau mae'n lleihau'r risg, weithiau mae'n cynyddu'r risg.
- Yn yr un modd, mae lle mae pobl yn byw yn dylanwadu ar ba mor hir y gall rhai pobl aros yn annibynnol.
- Ffactorau unigol cyffredinol fel oedran a bregusrwydd yw'r ffactorau mwyaf arwyddocaol.
- Mae amgylcheddau sy'n hybu iechyd, sy'n caniatáu i bobl gadw'n heini, yn debygol o leihau'r risg o gwympo a chaniatáu i bobl aros yn annibynnol am fwy o amser.