Enwau’r rheini sydd wedi derbyn Dyfarniadau Amser Ymchwil GIG 2022 wedi’u cyhoeddi
22 Mawrth
Mae enwau’r rheini sydd wedi llwyddo i dderbyn dyfarniadau Cynllun Ariannu Dyfarniad Amser Ymchwil GIG Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2022 wedi’u cyhoeddi.
Mae’r cynllun hwn, sy’n werth £450,000 i gyd, yn gwneud cyfraniad pwysig at gefnogi gwaith datblygu capasiti a gallu ymchwil yn GIG Cymru trwy ddarparu amser wedi’i ddiogelu, hyfforddiant a datblygiad i ymchwilwyr uchelgeisiol, gan eu cefnogi i fynd ar drywydd eu dyheadau ym maes ymchwil.
Bydd deiliaid y dyfarniadau hefyd yn elwa o ddod yn aelodau o Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Bydd hyn yn golygu y bydd mwy o gefnogaeth ar gael iddyn nhw trwy gydol eu dyfarniadau i ddod yn Ymchwilwyr Arweiniol neu’n Gydymchwilwyr ar gyfer grantiau a enillir trwy gystadleuaeth agored y mae cyfoedion yn ei hadolygu.
Bydd y cyllid yn cefnogi ymchwil ar draws ystod amrywiol o feysydd, o niwroleg i feddygaeth bediatrig frys.
Meddai’r Athro Monica Busse, Cyfarwyddwr, Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Dyma’r cohort cyntaf i dderbyn dyfarniadau ers creu Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Trwy fod yn aelodau o’r Gyfadran, byddan nhw’n gallu manteisio ar gefnogaeth cymuned o ymchwilwyr yn ogystal â chyfleoedd dysgu a datblygu a fwriedir i gyflymu eu datblygiad ar hyd eu llwybrau gyrfa ymchwil unigol.
Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld eu sgiliau hymchwil ar draws amrywiaeth o feysydd blaenoriaeth yn datblygu a gweld y cyfraniadau positif y gallan nhw eu gwneud at iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.”
Dyma’r rhai sydd wedi derbyn Dyfarniadau Amser Ymchwil GIG 2022:
Dr Helen Tench, Nyrs Ymchwil Arweiniol
-
Maes diddordeb yr ymchwil: Adfer ar ôl strôc ac anhwylderau niwrolegol
-
Sefydliad: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Dr Helen Munro, Ymgynghorydd ym maes Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol
-
Maes diddordeb yr ymchwil: Profion wrin Feirws Papiloma Dynol (HPV) a haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI) a defnyddio testosteron mewn menywod yn yr amser sy’n arwain i fyny i’r menopos a’r amser ar ôl y menopos
-
Sefydliad: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Dr Jordan Evans, Ymgynghorydd ym maes Meddygaeth Bediatrig Frys
-
Maes diddordeb yr ymchwil: Clefyd heintus pediatrig, adnabod sepsis a haint difrifol mewn lleoliadau gofal brys
-
Sefydliad: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Dr Krishna Narahari, Llawfeddyg Wrolegol Ymgynghorol
-
Maes diddordeb yr ymchwil: Canser wrolegol
-
Sefydliad: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Dr Mark Willis, Niwrolegydd Ymgynghorol
-
Maes diddordeb yr ymchwil: Niwro-lid a chymhlethdodau niwrolegol imiwnotherapi canser newydd
-
Sefydliad: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Dr Duncan McLauchlan, Niwrolegydd Ymgynghorol
-
Maes diddordeb yr ymchwil: Triniaeth ar gyfer anhwylderau seiciatrig mewn clefydau niwroddirywiol, yn benodol clefyd Huntingon
-
Sefydliad: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe