Esther Goodhew

Enwyd aelod o'r gyfadran, Esther Goodhew, yn Gymrawd Bevan newydd

6 Chwefror

Mae Esther Goodhew, Aelod o Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi cael ei dewis yn Gymrawd Bevan yn 2024 ymhlith 19 o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol eraill ledled Cymru.

Mae Cymrodorion Bevan yn weithwyr iechyd a gofal proffesiynol penigamp sy'n ymroddedig i drawsnewid gwasanaethau iechyd Cymru trwy brosiectau arloesol. Bydd y Cymrodorion yn cymryd rhan mewn cyfnod o ddwy flynedd i wella gwasanaethau iechyd a gofal ledled Cymru gyda digwyddiadau, mentora a chefnogaeth cymheiriaid.

Dywedodd Esther: "Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod datblygiad syniadau cyfredol i wneud ein Gwasanaeth Adsefydlu Niwrolegol Cymunedol yn gynaliadwy, gan alluogi unigolion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sydd â chyflyrau niwrolegol hirdymor i deimlo’u bod wedi'u grymuso i fyw bywydau ystyrlon a boddhaus."

Mae cyflawniad Esther yn dilyn llwyddiant aelod arall o'r Gyfadran, Peter Cnudde, Llawfeddyg Trawma ac Orthopedig Ymgynghorol, sydd wedi bod yn Gymrawd Bevan ers 2022. Mae diddordebau proffesiynol Peter yn cynnwys ymchwil data mawr a chofrestrau, ac economeg iechyd.

Darganfyddwch fwy am Raglen Cymrodorion Bevan a sut maen nhw'n cyfrannu at arwain newid a thrawsnewid ar draws iechyd a gofal.