Menyw oedrannus yn cerdded gyda ffrâm yn cysylltu breichiau â menyw iau

ESRC a'r Sefydliad Iechyd yn sefydlu canolfan newydd gwerth £15 miliwn i ddefnyddio tystiolaeth i wella gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru a gweddill y DU

24 Mawrth

Bydd canolfan genedlaethol newydd sbon ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion yn ceisio rhoi tystiolaeth o bob rhan o'r DU ar waith i hybu a chynnal annibyniaeth a lles pobl.

Mae'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI), a'r elusen, y Sefydliad Iechyd, wedi dod at ei gilydd i gefnogi’r gwaith o greu canolfan o'r enw IMPACT (Gwella Gofal Oedolion Gyda'n Gilydd).

Hon fydd y ganolfan gyntaf o'i math yn y DU.

Bydd y ganolfan yn:

  • Arwain y ffordd o ran helpu pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, gofalwyr, a'r bobl y maen nhw’n eu cynorthwyo i wneud gwell defnydd o dystiolaeth o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar arfer i gefnogi arloesedd ym maes gofal cymdeithasol
  • Meithrin gallu a sgiliau yn y gweithlu gofal cymdeithasol i oedolion
  • Helpu i ddatblygu perthynas gynaliadwy a chynhyrchiol rhwng pawb sy'n gweithio ar draws gofal cymdeithasol i oedolion
  • Gwella ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n helpu neu'n rhwystro wrth roi tystiolaeth ar waith

Bydd y ganolfan yn derbyn cyllid o £15 miliwn dros y chwe blynedd nesaf, gyda chyfraniadau cyfartal gan yr ESRC a'r Sefydliad Iechyd.

Gan gydnabod gwerth cyfunol arfer da a thystiolaeth gadarn o wahanol ffynonellau, bydd y ganolfan yn dwyn ynghyd amrywiaeth o bobl o bob rhan o'r DU i helpu i gyflawni ei nodau. Mae'r rhain yn cynnwys: pobl â phrofiad bywyd o ofal cymdeithasol, pobl sy'n darparu gofal di-dâl, pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, arbenigwyr ym maes ysgogi a gweithredu tystiolaeth ymchwil, darparwyr gofal cymdeithasol, comisiynwyr ac arbenigwyr polisi, a thimau academaidd o bob rhan o'r DU.

Ynghyd â rhanddeiliaid ym maes gofal cymdeithasol i oedolion a thu hwnt, bydd y tîm IMPACT yn cytuno ar flaenoriaethau ac yn cynllunio, sefydlu, darparu a gwerthuso rhaglen waith y ganolfan, gyda'r nod o arwain at newid cynaliadwy yn y defnydd o dystiolaeth ym maes gofal cymdeithasol i oedolion.

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

"Trwy'r pandemig, rydym wedi gweld y gymuned ymchwil, y GIG a'r sector gofal cymdeithasol yn cydweithio i gyflawni nodau ar y cyd. Mae'r ganolfan IMPACT newydd yn ymgorffori'r dull cydweithredol hwn, gan ysgogi effeithlonrwydd ac arloesedd. 

"Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm IMPACT, gan gyfrannu data, profiad a phersbectif o Gymru i alluogi datblygiadau sy'n newid bywydau pawb ledled Cymru a'r DU."

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: "Mae gofal cymdeithasol o ansawdd rhagorol i oedolion yn hanfodol i gefnogi pobl i fyw'r bywyd gorau y gallan nhw. Rhan graidd o swyddogaeth Gofal Cymdeithasol Cymru yw cefnogi pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i gael gafael ar y dystiolaeth orau sydd ar gael, ei deall a'i defnyddio i lywio'r ffordd y mae gofal a chymorth yn cael eu darparu. Bydd y ganolfan newydd yn darparu arbenigedd a chymorth gwerthfawr i'n gwaith ac edrychwn ymlaen at gydweithio â'r tîm i nodi'r ffyrdd gorau o wella canlyniadau i bobl yng Nghymru."

Penodwyd yr Athro Jon Glasby o Brifysgol Birmingham yn gyfarwyddwr IMPACT. Trwy weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid o bob rhan o'r DU, bydd yn arwain y gwaith o gyd-ddatblygu, sefydlu a chyflwyno'r ganolfan.

Dywedodd yr Athro Jon Glasby:

"Mae gofal cymdeithasol i oedolion yn cyffwrdd â bywydau pobl mewn ffyrdd mor bwysig ac agos, ac mae'n hanfodol ei fod wedi’i seilio ar y dystiolaeth orau bosibl o'r hyn sy'n gweithio.

"Nid yw gofal da yn ymwneud â gwasanaethau yn unig, mae'n ymwneud â chael bywyd – ac mae'r ESRC a'r Sefydliad Iechyd yn darparu cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i wneud gwahaniaeth gwirioneddol."

Dywedodd Cadeirydd Gweithredol ESRC, yr Athro Alison Park:

"Mae natur gymhleth y system gofal cymdeithasol yn golygu nad yw ymarfer rheng flaen bob amser yn elwa'n ddigonol ar y dystiolaeth sydd gennym eisoes o’r hyn sy'n gweithio.

"Mae cynyddu’r broses o weithredu datblygiadau arloesol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gwelliannau mewn gofal cymdeithasol i oedolion yn hanfodol er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i'r bobl niferus sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn, a'u gofalwyr a'u teuluoedd. Mae dod o hyd i ffordd o wneud i hyn ddigwydd yn heriol – ond mae'r wobr, o ran gwelliannau i ofal cymdeithasol i oedolion, yn ei gwneud yn hanfodol."

Dywedodd Will Warburton, Cyfarwyddwr Gwella, y Sefydliad Iechyd:

"Mae natur dameidiog y sector gofal cymdeithasol i oedolion yn creu heriau gwirioneddol o ran sicrhau darpariaeth gyson o ofal a chymorth o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

"Bydd y Ganolfan IMPACT yn gweithio ochr yn ochr â phobl sydd â phrofiad o ofal, gofalwyr, comisiynwyr a darparwyr i ddatblygu cymorth ymarferol a fydd yn cynyddu'r defnydd o dystiolaeth ymchwil o ansawdd uchel yn y sector gofal cymdeithasol i oedolion ledled y DU."

Bydd y ganolfan yn derbyn cyllid graddol hyd at 2027.