Headshot of Dr Helen Munro.

Aelod y mis y Gyfadran: Sut mae’r clinigwr Helen Munro yn llunio polisïau iechyd menywod yng Nghymru

27 Mehefin

Dyma gyflwyno Dr Helen Munro, sydd wedi’i lleoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae hi’n feddyg ymgynghorol uchel ei pharch sy’n arbenigo mewn gofal rhywiol ac atgenhedlu ac mae ei chyfraniadau ymchwil yn gwella polisi ac ymarfer gofal iechyd yng Nghymru a thu hwnt.

Mae ymwneud Dr Helen Munro â Chyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi rhoi amser wedi’i neilltuo a chymorth gan arbenigwyr iddi i gychwyn ar ei hymarfer ymchwil a’i wella. Roedd y gefnogaeth hon yn allweddol wrth iddi ddod yn arweinydd clinigol cyntaf Cymru ar gyfer iechyd menywod lle bydd Helen yn eirioli dros ymchwil iechyd menywod yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth mewn ymchwil.

"Mae’r Dyfarniad Amser Ymchwil yn rhoi amser neilltuol i mi ddilyn fy niddordebau ymchwil y tu allan i fy ngwaith clinigol, ac mae bod yn aelod o’r Gyfadran yn dod â chyfle i fanteisio ar rwydweithiau academaidd a chydweithwyr sydd wedi fy ngalluogi, fy nghefnogi a fy ysbrydoli."

Gyrfa gynnar

Wedi’i hysbrydoli gan wasanaeth ymroddedig ei thad fel nyrs ardal yng Ngogledd Swydd Efrog, astudiodd Helen feddygaeth ym Mhrifysgol Dundee yn yr Alban. Arweiniodd ei brwdfrydedd dros wasanaethu’r gymuned iddi ddewis llwybr clinigol gofal sylfaenol i barhau i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ac yn y pen draw fe wnaeth wirfoddoli dramor lle y gwnaeth hi weithio yn Affrica am flwyddyn. Ar ôl dychwelyd o Affrica, penderfynodd Helen ddilyn gradd meistr mewn iechyd cyhoeddus yn Llundain cyn gwneud ei chartref yn ne-orllewin Cymru yn y pen draw.

Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG

Yng Nghymru fe ddaeth o hyd i gyfuniad perffaith rhwng gofal cymunedol clinigol a’i diddordeb cynyddol mewn ymchwil diolch i Dyfarniad Amser Ymchwil (RTA) Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Gwnaeth derbyn dyfarniad, sydd â nod meithrin gallu ymchwil o fewn GIG Cymru, roi cyfle i Helen gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil diolch i’r amser wedi’i neilltuo. 

"Fe wnaeth y Dyfarniad Amser Ymchwil hefyd ganiatáu i mi gysylltu ag arbenigwyr ym maes ymchwil ac ehangu fy rhwydwaith ymhellach, gan agor drysau i gyfleoedd i ddechrau fy mhrosiectau ymchwil fy hun yn ymwneud ag iechyd menywod."

Uned Ymchwil Polisi Iechyd Atgenhedlol

Gan ganolbwyntio ar iechyd menywod, mae Helen yn ymwneud â’r Uned Ymchwil Polisi Iechyd Atgenhedlol (PRU), sydd wedi’i lleoli yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Nod yr Unedau Ymchwil Polisi Iechyd Atgenhedlol, sydd yn cael eu hariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR), yw darparu ymchwil o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth i lywio penderfyniadau am iechyd atgenhedlu. Dywedodd Dr Munro:

"Mae ymchwil iechyd menywod yn bwysicach nag erioed - mae angen i ni ddeall sut mae rhyw a rhywedd yn effeithio’n wahanol ar wahanol fathau o glefydau a salwch, er mwyn gwneud newidiadau a gwella bywydau 51% o’r boblogaeth"

"Mae llunwyr polisi, cleifion a’r cyhoedd yn dod at ei gilydd i ysgogi cynnydd ystyrlon a gwella iechyd menywod yn ogystal ag ymdrin â’r materion brys sy’n wynebu menywod heddiw."

Astudiaeth CONNECT

Mae Helen yn gyd-ymgeisydd ar gyfer prosiect arall o’r enw astudiaeth CONNECT sy’n archwilio’r manteision sy’n gysylltiedig â chyflwyno ymgynghoriadau o bell mewn gwasanaethau iechyd rhywiol ac atgenhedlu yn ystod COVID-19. Mae ei rôl yn cynnwys cyd-ddatblygu argymhellion ar gyfer ymgynghoriadau cynhwysol ac wedi’u harwain gan gleifion ac arwain ymdrechion casglu data o safbwynt Cymru.

Adnodd hunan-samplu Feirws Papiloma Dynol (HPV)

Mae Helen hefyd wedi cymryd rhan yn Rhaglen Enghreifftiol Bevan gan edrych ar ffyrdd o ddeall a hwyluso dewis cleifion o ran hunan-samplu HPV gartref.

"Gwnaeth ein harolwg ddarganfod y byddai’n well gan 64% o’r boblogaeth gymwys hunan-samplu HPV na phrofion wyneb yn wyneb, pe baen nhw’n cael y dewis. Mae gan gyflwyno hunan-samplu HPV y potensial i arbed amser i gleifion ac mae ganddo’r potensial i arwain at wella mewn canlyniadau iechyd i’r cleifion hynny na fydden nhw fel arall wedi cael eu sgrinio."

"Y peth allweddol yw bod gan fenywod ddewis a’u bod yn wybodus ac yn gymwys i allu gwneud y dewis hwnnw," meddai Dr Munro.

Arweinydd clinigol cyntaf erioed Cymru ar gyfer iechyd menywod

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024, penododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan, Dr Helen Monro fel arweinydd clinigol newydd i helpu i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd menywod ledled Cymru. Bydd hi’n arwain y Rhwydwaith Strategol Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod wrth ddatblygu Cynllun Iechyd Menywod Cymru ochr yn ochr ag Alex Hicks, y rheolwr rhwydwaith strategol newydd.

Mae Helen wedi ymrwymo i hyrwyddo ymchwil iechyd menywod, gan sicrhau ei bod yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth ar agenda ymarferwyr, ymchwilwyr a llunwyr polisi fel ei gilydd.

Edrychwch ar dudalennau Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i ddarganfod y cyfleoedd neu’r dyfarniadau cyllido cywir i chi a rhoi hwb i’ch taith ymchwil