Dwy ddynes mewn gardd mewn cartref gofal

Faint mae'r amgylchedd mewn cartref gofal yn effeithio ar ansawdd bywyd?

Mae Verity Walters, myfyriwr ymchwil PhD ym Mhrifysgol Abertawe, yn ymchwilio i'r amgylcheddau ffisegol gorau mewn cartrefi gofal a lleoliadau gofal ychwanegol.

Astudiodd Verity radd seicoleg ac yna aeth ymlaen i gwblhau MSc mewn Astudiaethau Heneiddio gan gofio ei phrofiad o ymweld â pherthnasau hŷn mewn cartrefi gofal.

Wedi'i hysbrydoli gan y pentrefi dementia yn Nenmarc

Wedi'i hysbrydoli gan y pentrefi dementia yn Nenmarc, roedd Verity yn dymuno deall sut y gallai’r hyn sydd gan bobl o’u cwmpas, fel mynediad i'r awyr agored ac eiddo personol, maint ystafelloedd a lefelau sŵn effeithio ar les preswylwyr.

Bydd ei hymchwil yn cynnwys arsylwi, galwad Zoom awr o hyd gyda rheolwyr cartrefi gofal a grŵp ffocws gyda phreswylwyr i ddeall pa ffactorau sy'n bwysig ar gyfer amgylcheddau byw da. Bydd yr wybodaeth hon yn helpu sefydliadau i sy’n adnewyddu eu lleoliadau a'r rhai sy’n dymuno dod o hyd i ffyrdd o wneud newidiadau bach i wella bywydau eu preswylwyr.

Dywedodd Verity: "Gall symud i gartref newydd fod yn frawychus iawn, yn enwedig os ydych chi wedi byw mewn un tŷ am gyfnod hir iawn. Bydd fy ymchwil yn edrych ar amrywiaeth o wahanol fannau a threfniadau i ddeall y ffordd orau o wella bywydau preswylwyr.

"Er enghraifft, roedd gan un cartref gofal y darllenais amdano dafarn, ardal bar fach mewn ystafell lle gallai preswylwyr efelychu'r hanner cyflym ar eu ffordd adref o'r gwaith. I'r rhan fwyaf o sefydliadau, rwy'n gobeithio y bydd fy ymchwil yn darparu'r dystiolaeth sydd ei hangen i ychwanegu mwy o blanhigion, ystafelloedd synhwyraidd neu wneud newidiadau bach i'w lle i wella ysbryd.

"Byddwn i wrth fy modd yn sgwrsio â chynifer o reolwyr cartrefi gofal a chartrefi gofal ychwanegol am eu profiad i roi darlun llawn o'r amgylcheddau ffisegol sydd eisoes yng Nghymru, yn ogystal â'r rhai sy'n byw yn y cartrefi hyn."

Dechreuodd astudiaeth Verity, o'r enw Reimagining Care Environments for Wellbeing: What works for Care staff and Residents, recriwtio yn 2020 ond cafodd ei gohirio oherwydd y pandemig.

Mae rheolwr ENRICH Cymru, Deborah Morgan, sy'n cynorthwyo’r astudiaeth hon, yn annog cartrefi gofal yng Nghymru i gymryd rhan. Dywedodd: "Mae yna farn hen ffasiwn iawn fod cartref gofal yn un ystafell fawr o 20 neu fwy o bobl yn eistedd mewn cadeiriau yn syllu i'r gofod.

"Rydym yn gwybod nad yw hynny'n wir ac mae'r ymchwil hon yn ffordd wych o roi'r holl waith gwych o gartrefi gofal sy'n gweithio ar eu hamgylchedd ffisegol mewn un lle i rannu arfer gorau a helpu cartrefi gofal eraill yng Nghymru a ledled y DU i wella ansawdd bywydau eu preswylwyr."

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn yr ymchwil hon, cysylltwch â Verity.