Tîm Harness Gravidarum

Fe allai dyfais gŵr i helpu ei wraig â phoen beichiogrwydd helpu menywod ledled y byd

Mae dyn busnes o Ogledd Cymru, a gafodd ei ysbrydoli i ddylunio harnais sy’n rhoi  cefnogaeth arbennig ar ôl gweld poen ei wraig pan roedd hi’n feichiog, yn gobeithio newid bywydau miloedd o fenywod sy’n dioddef o boen difrifol yn y gwregys pelfig.

Nid oedd Ruth Roberts yn gallu cerdded ac roedd yn rhaid iddi ddefnyddio cadair olwyn i symud o gwmpas oherwydd y poen dwys roedd hi’n ei ddioddef pan roedd hi’n disgwyl ei phedwerydd plentyn. Rhoddodd hyn hwb i’w gŵr, Dafydd, ddatblygu’r harnais, sy’n cefnogi pwysau’r ‘bwmp’, ac yn dal esgyrn y cluniau mewn ystum cyfforddus. 

Mae Ruth a Dafydd bellach yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ar ôl cael gair â’r obstetrydd ymgynghorol, Kalpana Upadhyay, yn Ysbyty Maelor Wrecsam. 

Fel rhywun sy’n arbenigo mewn beichiogrwydd risg uchel, fe benderfynodd Mrs Upadhyay ei bod hi’n bryd rhoi cynnig ar rywbeth newydd, a dechreuodd gasglu tîm o’i hamgylch o ymchwilwyr, ffisiotherapyddion, bydwragedd, y rheolwr diwydiant o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac arbenigwyr o Gymdeithas Hap-dreialon Iechyd Gogledd Cymru.
 
Meddai: “Rydyn ni nawr wedi llwyddo i roi treial clinigol priodol ar waith ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn profi ein damcaniaeth fod y ddyfais yma’n fwy effeithiol na’r driniaeth safonol sydd ar gael.”
   
I gael mwy o wybodaeth am Harnais Gravidarum, ewch i www.maternity-belt.co.uk


Cyhoeddwyd gyntaf: @YmchwilCymru Rhyfin 1, Hydref 2016