Yr Athro Greg Fegan
Cyfarwyddwr Uned Treialon Abertawe ac Athro Treialon Clinigol
Ymunodd yr Athro Fegan â’r Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Rhagfyr 2015 ar ôl treulio 25 mlynedd yn byw y tu allan i’r DU yn gweithio yn Kenya, yr Unol Daleithiau a Gambia. Mae ei gyflogwyr blaenorol yn cynnwys Canolfan Meddygaeth Drofannol Prifysgol Rhydychen (2009-2015), Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain (2003-2009 ac 1987-1990), Swyddfa Iechyd Cyhoeddus Louisiana (1999-2003), Arolygon Demograffeg ac Iechyd (1990-1991) ac uned Cyngor Ymchwil Meddygol y DU yn Fajara, Gambia (1992-1994). Mae ganddo Ddoethuriaeth mewn Epidemioleg gan Brifysgol Tulane, New Orleans ac MSc mewn Peirianneg Systemau Gwybodaeth gan Goleg Polytechnig Southbank, Llundain.