Yr Athro Deborah Fitzsimmons
Cyd-Gyfarwyddwr ac Uwch Arweinydd Ymchwil
Mae Deb Fitzsimmons yn Athro Ymchwil Canlyniadau Iechyd a Chyfarwyddwr Canolfan Economeg Iechyd Abertawe ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl treulio’i gyrfa cynnar fel Nyrs Glinigol ac Ymchwil, gweithiodd ym maes mesur canlyniadau a adroddwyd gan gleifion (PROMs) ym Mhrifysgol Southampton cyn symud i faes economeg iechyd pan ymunodd â Phrifysgol Abertawe yn 2004. Erys ei diddordebau methodolegol ym maes PROMs.
Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn nyluniad gwerthusiad economaidd iechyd a throsi dadansoddiad i gyflwyno tystiolaeth ystyrlon o ansawdd uchel i lywio penderfyniadau ac ymarfer gofal iechyd. Mae Deb yn cydweithio’n eang ledled Cymru, y DU ac Ewrop ac wedi cael cyllid gan Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd, yr Adran Iechyd, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, elusennau a diwydiant.
Fel Cyd-gyfarwyddwr Gwasanaeth Cymorth Economeg Iechyd Cymru, mae’n cyd-arwain Cymuned Arbenigedd Economeg Iechyd Cymru gyfan er mwyn arwain a chefnogi ymchwil economeg iechyd o’r radd flaenaf i Gymru.