Yn ystod Haf 2024, fel rhan o brosiect Darganfod Eich Rôl 2.0, bu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gweithio i wella cyfranogiad y cyhoedd trwy weithdai rhyngweithiol. Nod y gweithdai hyn oedd goresgyn rhwystrau i gyfranogiad y cyhoedd drwy weithio ar y cyd i nodi atebion i'r rhwystrau hyn.
O ganlyniad i'r gweithdai hyn, fe wnaethom ddatblygu cynllun gweithredu drafft yn adlewyrchu ein dull cydweithredol ac amlinellu'r heriau a'r atebion a rennir gan y gymuned.
Hoffem glywed eich barn ar y ddogfen.
Pam mae eich adborth yn bwysig
Mae eich adborth yn hanfodol oherwydd:
- Sicrhau eglurder: Bydd yn ein helpu i sicrhau bod ein nodau a'n hamcanion yn cael eu cyfleu a'u deall yn glir.
- Mynd i'r afael â phryderon: Mae tynnu sylw at faterion posibl gyda'r gweithgareddau arfaethedig yn ein galluogi i wneud addasiadau angenrheidiol i sicrhau eu bod yn ymarferol ac yn effeithiol.
- Gwella effeithiolrwydd: Bydd eich mewnbwn yn sicrhau bod y ddogfen yn mynd i'r afael â'r problemau yn effeithiol ac yn cyflawni ein canlyniadau arfaethedig, gan wella cyfranogiad y cyhoedd mewn ymchwil.
Mae eich mewnwelediad yn hanfodol ar gyfer llunio dogfen Darganfod Eich Rôl newydd sy'n adlewyrchu ein hamcanion ac yn cyfleu ein cynlluniau yn effeithiol. Diolch am eich cyfraniad gwerthfawr.
Gweld y ddogfen.