Dathlu llais y gymuned cartrefi gofal mewn ymchwil.

 

Dydd Mercher 2 Ebrill 2025 12:00 – 13:30

Prif Neuadd y Pierhead, Senedd Cymru, Bae Caerdydd

Noddwyd gan Delyth Jewell AS

Ymunwch â ni i ddathlu cyflawniadau ENRICH Cymru wrth ymdrin â'r materion sy’n wynebu’r sector cartrefi gofal ar hyn o bryd trwy ofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Rydym yn falch iawn o'ch gwahodd i ddigwyddiad ENRICH Cymru i ddathlu ein cyflawniadau wrth hyrwyddo gofal sy’n seiliedig ar dystiolaeth dros yr wyth mlynedd diwethaf, i lansio ein hadnoddau newydd ar gyfer cartrefi gofal, ac i gyhoeddi ein cyfnod cyllido newydd gan Lywodraeth Cymru tan fis Mawrth 2027 i barhau i gefnogi cartrefi gofal a rhoi cyfle i breswylwyr gymryd rhan mewn ymchwil.

Bydd hwn yn gyfle i randdeiliaid allweddol glywed mwy am waith ENRICH Cymru a phwysigrwydd ymchwil i'r sector cartrefi gofal.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys noddwr y digwyddiad, Delyth Jewell AS, Dr Victoria Shepherd, Cadeirydd Bwrdd Cynghori ENRICH Cymru ac Uwch Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Treialon Ymchwil, yr Athro Andrew Carson-Stevens, Dr Merryn Thomas o dîm astudio Deall Safbwyntiau a Dychymyg Pobl Hŷn ynghylch Newid yn yr Hinsawdd (OPTIC), a chynrychiolwyr cartrefi gofal.

Bydd cinio ar gael yn y digwyddiad, nodwch unrhyw anghenion dietegol sydd gennych isod.

Rhif ffôn
Datganiad GDPR *

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg: