Grantiau addysg a hyfforddiant i nyrsys canser sy'n gweithio yn GIG Cymru

Mae'n bleser gan Cancer Research UK ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyhoeddi lansiad cyfle newydd i nyrsys canser sy'n gweithio o fewn GIG Cymru gael mynediad at grantiau hyfforddiant ac addysg. Nod y fenter hon yw cefnogi datblygiad gwybodaeth a sgiliau sy'n gysylltiedig ag ymchwil ymhlith gweithwyr nyrsio canser proffesiynol, gan helpu i wella gofal cleifion a meithrin diwylliant o ddysgu. 

 

Beth sydd ar gael? 

Mae grantiau sy'n amrywio o £250 i £1,000 ar gael i gefnogi nyrsys canser i fynd ar drywydd cyfleoedd addysgol a hyfforddiant: 

  • Gwella eich rôl a'ch set sgiliau
  • Cyfrannu at ofal cleifion a datblygiad tîm
  • Cynnwys elfen sy'n gysylltiedig ag ymchwil 

Gall hyfforddiant cymwys gynnwys: 

  • Cyrsiau byr neu weithdai
  • Cynadleddau sy'n canolbwyntio ar ymchwil
  • Modiwlau hyfforddiant ar-lein
  • Hyfforddiant mewn dulliau ymchwil neu ddadansoddi data
  • Cynnal eich gweithdy neu gynhadledd fach eich hun (rhaid cynnwys elfen ymchwil) 

Meini Prawf Cymhwysedd 

I wneud cais, rhaid i chi: 

  • Bod yn nyrs sy'n gweithio ym maes gofal canser yn GIG Cymru (e.e. nyrs arbenigol canser, nyrs oncoleg, nyrs cemotherapi/therapi gwrth-ganser systemig, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, nyrs gofal lliniarol, neu nyrs Gwasanaeth Oncoleg Acíwt)
  • Gwneud cais am hyfforddiant sy'n berthnasol i'ch rôl bresennol
  • Dangos sut mae gan y cyfle ffocws ymchwil 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod eich syniad cyn gwneud cais, cysylltwch â Rebecca Weston-Thomas, Nyrs Arweiniol CRUK Cymru.

Sut i wneud cais

Cwblhewch y ffurflen isod

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:  17:00 26 Medi 2025 

sharing success

 

Rhannu Llwyddiant 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cynnwys mewn stori sbotolau fer er mwyn ysbrydoli eraill a hyrwyddo ymgysylltiad ymchwil ar draws y tîm ehangach.

Bydd cyfle hefyd i’r rhai sy’n derbyn grantiau gyflwyno eu dysgu a’u heffaith yng Nghynhadledd Cymorth a Chyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2026, gan dynnu sylw at sut mae'r hyfforddiant wedi bod o fudd i gleifion a staff yn eu safle tiwmor.

 

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ond yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei darparu er mwyn i ni allu cyflawni’r dasg yr ydych yn darparu’r wybodaeth ar ei chyfer. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thiciwch isod i nodi eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg: