Gweithdai Ymgysylltu Darganfod Eich Rôl

Ymunwch â ni am gyfres ddiddorol o weithdai ymgysylltu wrth i ni ddechrau ar gam nesaf ein taith Darganfod Eich Rôl i wella cyfranogiad y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal ledled Cymru.

Nod ein gweithdai yw ategu cam un lle gwnaethom nodi'r rhwystrau sy'n effeithio ar gyfranogiad y cyhoedd. Bydd pob gweithdy yn canolbwyntio ar dri rhwystr penodol a nodwyd.

Yr amcan yw cynnig atebion ymarferol i oresgyn y rhwystrau hyn trwy gydweithio ag aelodau'r cyhoedd ac ymchwilwyr.

Mae gennym dri gweithdy ymgysylltu wedi'u cynllunio ar y dyddiadau canlynol:

  • 11 Mehefin - Prifysgol Wrecsam, Campus Plas Coch 9:30 - 13:00
  • 9 Gorffennaf - Sefydliad Awen Abertawe 9:30 - 13:00
  • Gweithdy'n llawn - 17 Gorffennaf -Caerdydd, Holiday Inn, Stryd y Castell 9:30 - 13:00 - Os hoffech gael eich ystyried am le canslo os oes un ar gael, e-bostiwch y tîm.

Rydym yn llawn cyffro i groesawu pawb i'n gweithdai ymgysylltu ac rydym yn gwerthfawrogi eich syniadau.

Sylwch na allwn ddarparu iawndal na chostau teithio am gymryd rhan yn y gweithdai hyn.

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i lywio dyfodol ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru – cofrestrwch nawr!

Cwymplen: