Breadcrumb Hafan research priorities survey - young people You must have JavaScript enabled to use this form. Nodi blaenoriaethau ymchwil i wella mynediad at ofal a chymorth cydgysylltiedig i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal (neu ar ffiniau gofal) ac sydd ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol heb eu diwallu, a darparu'r gofal hwnnw Beth yw diben yr arolwg hwn? Yn yr Hydref, fe wnaethom ni siarad â phobl ifanc a rhedeg arolwg ar gyfer ymarferwyr iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, a’r trydydd sector(elusennau) o ofyn iddynt am eu profiadau, eu mynediad at, a chyflawniad o ofal cydgysylltiedig, a chefnogaeth i blant neu bobl ifanc sydd innau ar ffin gofal 11-25 oed, mewn gofal neu wedi cael profiad o ofal gydag anghenion emosiynol ac ymddygiad wedi eu diwallu. Diben gwneud hyn oedd er mwyn darganfod meysydd ymchwil pwysig. Diolch yn fawr i’r rheiny a gymerodd ran! Fe wnaethom ni roi eich cwestiynau i fewn i gategorϊau, a chynhyrchu rhestr o 28 cwestiwn wedi’u crynhoi. Mae’r cwestiynau hyn wedi eu nodi yn yr arolwg hwn.Gofynnwn i chi ddewis y rhai sydd bwysicaf i chi. A fyddech gystal a chymryd rhan yn yr arolwg hwn os ydych: Yn gweitho mewn gwasanaethau sy’n darparu gofal a chefnogaeth (yn cynnwys iechyd, gofal cymdeithasol,iechyd,3ydd sector a’r rhwydwaith mwy eang o gefnogaeth sy’n ymestyn allan) yng Nghymru,â phrofiad o weithio gyda’r grŵp hyn o blant a phobl ifanc. Nid yw sefydliadau preifat yn cael eu cynnwys. Yn eiriolwr gofal-neu blant a phobl ifanc gydag anghenion emosiynol ac ymddygiad sydd wedi cael profiad o fod ar ffin gofal. Yn riant neu’n warcheidwad gofal neu ar ffin gofal i blant a phobl ifanc gydag anghenion emosiynol ac ymddygiad heb eu diwallu. Yn dilyn ein grwpiau trafod gyda phlant a phobl ifanc am y cwestiynau hyn, gallant hefyd bleidleisio gan ddefnyddio’r arolwg hwn. Beth ydyn ni’n gofyn i chi ei wneud? A fyddech gystal a darllen y rhestr a dewis hyd at 10 cwestiwn yr ydych chi’n meddwl sydd fwyaf pwysig i’r ymchwilwyr eu hateb ar sail eich profiadau a’ch barn chi. A fyddech gystal a gofyn i bobl eraill gwblhau’r arolwg hwn hefyd os gwelwch yn dda. Rydym yn awyddus i godi ymwybyddiaeth ymchwilwyr eraill o faterion sydd o bwys i lawer o bobl. Yw’r arolwg yn gyfrinachol? Mae’r arolwg yn gyfrinachol. Byddwn ni’n gofyn am ychydig o wybodaeth amdanoch chi er mwyn gallu deall pwy sydd yn cwblhau’r arolwg, ac i wneud yn siwr hefyd ein bod yn clywed yn ol gan ystod eang o bobl. Wedi cwblhau’r arolwg, byddwn ni’n gofyn i chi a fyddai gyda chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y gweithdy terfynol, er mwyn penderfynu ar y 10 prif flaenoriaeth. Byddai hyn yn gollol wirfoddol, ac ni fyddwn yn cysylltu’r ymatebion o’r arolwg gyda’r ffurflen y byddech yn ei chwblhau yn y gweithdy. Am ragor o wybodaeth, gweler ein hysbysiad preifatrwydd. Sylwer: Fe wnaethom ni dderbyn rhai ymatebion i'r arolwg blaenorol nad oedd yn ffitio o fewn sgop y prosiect hwn. Rydym wedi cadw 'rhain, a byddant yn cael eu defnyddio mewn gwahanol ffyrdd megis eu danfon at gydweithwyr polisi yn Llywodraeth Cymru. Arolwg Sut y gellir eich disgrifio orau? Gwnewch un dewis yn unig. Rhiant,gwarcheidwad, neu ofalwr/wraig Person ifanc (dros 16)sydd mewn cyswllt efo gwasanaethau gofal a chefnogaeth yng Nghymru Eiriolwr i blant a phobl ifanc yng Nghymru Ymarferydd Gofal Cymdeithasol yng Nghymru Ymarferydd Gofal Iechyd yng Nghymru Ymarferydd Addysg yng Nghymru Ymarferydd 3ydd Sector yng Nghymru Ym mha ardaloedd ydych chi’n gweithio (ar gyfer ymarferwyr ac eiriolwyr) neu’n byw yno? (ar gyfer rhieni,gwarchgeidwadwyr,pobl ifanc) Blaenau Gwent, Caerphilly, Monmouthshire, Newport, Torfaen Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam Caerdydd, Bro Morgannwg Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro Powys Abertawe, Castell-nedd Port Talbot Ble bynnag yr ydych yng Nghymru Rhywle arall – esboniwch Arall... Ar gyfer ymarferwyr ac eiriolwyr yn unig. Ymysg y plant a'r bobl ifanc yr ydych wedi gweithio gyda nhw, ydych chi wedi cael profiad o weithio gydag unrhyw un o'r grwpiau canlynol? (ticiwch bob un sy'n berthnasol)? Plant a phobl ifanc mewn gofal Plant a phobl ifanc ar ffiniau gofal (gan gynnwys gofal a chymorth ataliol) Pobl ifanc sy'n gadael gofal neu bobl ifanc â phrofiad o ofal Gofalwyr ifanc Teuluoedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig Plant a phobl ifanc o gymunedau Sipsiwn, Teithwyr neu Roma Plant a phobl ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol Plant a phobl ifanc anabl Plant a phobl ifanc niwrowahaniaethol Plant a phobl ifanc sy'n geiswyr lloches neu'n ffoaduriaid Plant a phobl ifanc sy'n siarad Cymraeg Ticiwch y cwestiynau sydd bwysicaf i ymchwil eu hateb—gallwch gyflwyno hyd at 10. Pan fyddwn yn dweud 'gwasanaeth' rydym yn cyfeirio at iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, a'r trydydd sector. 1. Sut all gwasanaethau weithio ynghyd i sicrhau bod gwrando, deall anghenion y person ifanc sydd a phrofiad o ofal, ac ennill eu hymddiriedaeth yn ganolog i’w hymarfer? Sut mae hyn yn cael effaith ar y gefnogaeth mae’r plentyn neu’r person ifanc yn ei derbyn? 2. Sut fedrwn ni wella dealltwriaeth pobl sy’n gweithio ar draws gwasanaethau o beth yn union mae hi fel i gael y profiad o dderbyn gofal neu fod ar ffin gofal? Pa effaith fyddai hyn yn ei gael ar y gofal a’r gefnogaeth fyddai plant a phobl ifanc yn ei dderbyn ar gyfer eu hanghenion emosiynol ac ymddygiad? 3. Sut all plant a phobl ifanc a chanddynt brofiad o ofal gydag anghenion emosiynol ac ymddygiad heb eu diwallu gael eu cynnwys i raddau mwy helaeth yn y penderfyniadau sydd yn eu heffeithio? Pa fanteision a sialensau allai ddod i law efo’r ffordd hyn o weithio? 4. Sut all gwasanaethau weithio efo plant a phobl ifanc a chanddynt brofiad o ofal i benderfynu ar y lleoliad mwyaf priodol iddynt dderbyn gofal a chefnogaeth ar gyfer diwallu eu hanghenion emosiynol ac ymddygiad? Erenghraifft yn yr ysgol, neu gartre. 5. Sut all gwasanaethau statudol(gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, addysg) a sefydliadau trydydd sector (elusennau) weithio mewn ffordd a fyddai’n cyd-fynd efo’i gilydd i ddarparu’r gofal a’r gefnogaeth briodol ar yr amser iawn, ar gyfer plant a phobl ifanc a chanddynt brofiad o ofal gydag anghenion emosiynol ac ymddygiad heb eu diwallu. 6. Pa gyfleoedd sy’n bodoli i Wasanaethau Iechyd a Gofal weithio’n fwy clos, a beth fyddai’r manteision a’r anfanteision posib o ran y gofal a’r gefnogaeth y byddai pobl ifanc a chanddynt brofiad o ofal yn ei dderbyn?Sut ddylai gwasanaethau benderfynu pwy sy’n arwain er mwyn sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc a chanddynt brofiad o ofal yn cael eu diwallu. 7. Beth yw’r rhwystrau sefydliadol (ymarferol neu ddiwylliannol) i ddarparu gofal a chefnogaeth sy’n rhoi anghenion y plentyn yn gyntaf? Sut allai’r rhwystrau hyn gael eu goresgyn? 8. Sut all gwasanaethau ddeall dyletswyddau a swyddogaethau(yn cynnwys defnydd o iaith, cymhwystra ar gyfer gwasanaethau a llwybrau gwasanaeth) i ddarparu gofal di-dor a chefnogaeth i blant a phobl ifanc a chanddynt brofiad o ofal? 9. Pa fath o gyfleoedd hyfforddi allai gefnogi gweithio cydgysylltiedig a darparu gwell gofal a chefnogaeth i blant a phobl ifanc a chanddynt brofiad o ofal? Sut allai’r cyfleoedd hyfforddi gael eu ddarparu ar draws gwahanol sectorau? 10. Sut all cefnogaeth emosiynol ac ymddygiad gael ei ddarparu yn y gymuned ar gyfer plant a phobl ifanc a chanddynt brofiad o ofal ag anghenion emosiynol ac ymddygiad heb eu diwallu? Pa dystiolaeth sy’n bodoli i gefnogi’r ymagwedd hon?Erenghraifft, hybiau cymuned, fyddai’n darparu nifer o fathau o gymorth a chyngor. 11. Sut all gwasanaethau weithio ynghyd i adnabod plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal gydag anghenion emosiynol ac ymddygiad heb eu diwallu, sydd hefyd mewn perygl(erenghraifft o gael eu gwahardd o’r ysgol, o gamddefnyddio sylweddau,digartrefedd,o gael eu camfanteisio’n rhywiol/eu camddefnyddio’n droseddol neu fod ganddynt ymglymiad gyda chyfiawnder iechyd)fel eu bod yn derbyn gofal a chefnogaeth well i atal y peryglon hyn rhag digwydd. 12. Sut all gwasanaethau weithio ynghyd i ddarparu cefnogaeth well ar gyfer plant a phobl ifanc sydd a phrofiad o ofal gydag anghenion heb eu diwallu, ble mae anghenion cymhleth sy’n cyd-ddigwydd o ran anghenion addysgol ychwanegol a/neu niwrowahaniaeth? 13. Sut all gwasanaethau weithio ynghyd i adnabod plant a phobl ifanc gyda phrofiad o ofal sydd hefyd ag anghenion emosiynol ac ymddygiad heb eu diwallu yn gynnar? Beth fyddai’r manteision/manteision cost o wneud hyn? 14. Pa gefnogaeth fyddai fwyaf o fudd i blant a phobl ifanc gydag anghenion emosiynol ac ymddygiad sy’n aros am ddiagnosis iechyd meddwl a/neu’n aros i gael mynediad i wasanaethau iechyd meddwl? 15. Beth fyddai’r ffordd orau o fapio gwasanaethau gofal a chefnogaeth a/neu rannu Gwybodaeth fapio i dynnu sylw at fylchau mewn darpariaeth, ac i ddarbwyllo pobl sy’n gweithio mewn gwahanol wasanaethau am yr hyn sydd ar gael o ran cefnogaeth i bwy a ble? 16. Beth fyddai’r modd gorau o rannu, hyrwyddo ac hysbysebu gwasanaethau gofal a chefnogaeth er mwyn i blant a phobl ifanc a chanddynt brofiad o ofal sydd hefyd ag anghenion emosiynol ac ymddygiad heb eu diwallu fedru gael dealltwriaeth o’r gofal a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt a’r modd y gellid gael mynediad iddo. 17. Beth gellir ei wneud er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc a chanddynt brofiad o ofal ddim o dan anfantais pe byddent yn symud ar draws ffiniau lleol neu genedlaethol? 18. A fyddai creu cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio ymarferwyr a chreu cymunedau ymarfer a fyddai’n cynnwys yr holl wasanaethau yn gwella ar y gofal a’r gefnogaeth y byddai pobl ifanc gyda phrofiad o ofal ac anghenion emosiynol heb eu diwallu yn ei dderbyn? 19. Sut fyddai diffiniadau meddygol o iechyd meddwl yn cael effaith ar y gefnogaeth i bobl ifanc a chanddynt brofiad o ofal gydag anghenion emosiynol ac ymddygiad heb eu diwallu (e.e ar gyfer atgyfeirio ac asesiadau)? Pa ddewisiadau amgen sydd yna i ddefnyddio diffiniadau meddygol ar gyfer iechyd meddwl er mwyn gwneud penderfyniadau ar opsiynau gofal a chefnogaeth ble and oes yna ddiagnosis iechyd meddwl? 20. Sut fedrai gwasanaethau weithio ynghyd er mwyn darparu sgiliau bywyd ymarferol ac hyfforddiant hunan-ofal ar gyfer pobl ifanc a chanddynt brofiad o ofal a’u teuluoedd i’w helpu i reoli emosiynau ac ymddygiadau ac i ddatblygu gwytnwch. 21. Sut allai gwasanaethau weithio ynghyd i ddarparu cynllunio a chefnogaeth di-dor ar gyfer pobl ifanc a chanddynt brofiad o ofal ar gyfer eu hanghenion emosiynol ac ymddygiad pan fyddant yn trawsnewid i fod yn oedolyn. 22. Yw gweithio mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma ar draws sefydliadau o gymorth i blant a phobl ifanc i ddiwallu eu hanghenion emosiynol ac ymddygiad sydd heb eu diwallu? Pa wahaniaeth mae hyn yn ei wneud i’w deilliannau? 23. Beth yw’r ffordd mwyaf effeithiol o rannu gwybodaeth a darparu hyfforddiant am ymagweddau ‘gwybodus o drawma’ ar draws sefydliadau, er mwyn helpu eu mewnblannu yn gyson a chynaliadwy ar draws gwasanaethau? 24. Pa mor effeithiol yw timau aml-ddisgyblaethol a swyddogaethau cysylltiol rhwng gwasanaethau(iechyd,gofal cymdeithasol,addysg) mewn gwella ar ddeilliannau ar gyfer plant a phobl ifanc a chanddynt brofiad o ofal gydag anghenio emosiynol ac ymddygiad heb eu diwallu? 25. Pa mor effeithiol yw gwasanaethau aml-ddisgyblaethol sydd mewn lleoliadau addysgol(ysgolion,addysg bellach,addysg uwch a darparwyr addysg dewisol) ar gyfer darparu gofal a chefnogaeth i blant a phobl ifanc gydag anghenion emosiynol ac ymchygiad heb eu diwallu)Sut ellir cynllunio rhain gan gadw’r person ifanc mewn cof? 26. Pa gyfleoedd sy’n bodoli ar gyfer dynesiadau traws-ardal neu ymyrraethau i oruchwylio atgyfeiriadau a dyraniadau ar draws Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion emosiynol ac ymddygiad heb eu diwallu. Beth yw’r manteision a’r anfanteision ? 27. Pa mor effeithiol yw’r dynesiadau aml-asiantaeth o ran datblygu gwytnwch emosiynol, a datblygu mecanweithiau ymdopi a llythrennedd emosiynol, mewn plant a phobl ifanc a chanddynt brofiad o ofal ag anghenion emosiynol ac ymddygiad heb eu diwallu? 28. Pa mor effeithiol yw dynesiadau adfer sy’n ffocysu ar adeiladu ac atgyweirio perthynas mewn cefnogi plant a phobl ifanc a chanddynt brofiad o ofal ag anghenion emosiynol ac ymddygiad heb eu diwallu. Sut allai rhain gael eu gweithredu ar draws gwasanaethau? Leave this field blank