Breadcrumb Hafan WG research priorities - womens health - vote You must have JavaScript enabled to use this form. Nodi blaenoriaethau ymchwil i wella mynediad at ofal a chymorth cydgysylltiedig i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal (neu ar ffiniau gofal) ac sydd ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol heb eu diwallu, a darparu'r gofal hwnnw Beth yw diben yr arolwg hwn? Yn yr hydref, buom yn siarad â menywod, merched ac ymarferwyr yn y GIG i ofyn am eu profiadau mewn cyfathrebu ynghylch iechyd menywod. Fe wnaethon ni hyn oherwydd ein bod am ddod o hyd i feysydd pwysig i'w hymchwilio. Diolch i'r rhai a gymerodd ran! Gwnaethom roi eich cwestiynau mewn categorïau ac rydym wedi llunio rhestr o 37 o gwestiynau cryno. Mae'r cwestiynau hyn wedi'u nodi yn yr arolwg hwn ac rydym yn gofyn i chi ddewis y rhai sydd bwysicaf i chi. Cymerwch ran yn yr arolwg hwn os ydych yn: Fenyw, merch neu berson a gofrestrwyd yn fenyw ar enedigaeth sydd dros 16 oed a/neu Ymarferydd GIG sy'n gweithio yng Nghymru neu sy'n darparu gofal i fenywod, merched, neu bobl sydd wedi'u cofrestru'n fenyw ar enedigaeth sy'n byw yng Nghymru Beth ydy ni am i chi ei wneud? Darllenwch y rhestr a dewiswch hyd at 10 cwestiwn y credwch sydd bwysicaf i ymchwilwyr eu hateb yn seiliedig ar eich profiadau a'ch barn eich hun. Gofynnwch i eraill gwblhau'r arolwg hwn hefyd. Rydym am wneud ymchwilwyr yn ymwybodol o'r materion sy'n bwysig i lawer o bobl. A yw'n gyfrinachol? Mae hwn yn arolwg cyfrinachol. Byddwn yn gofyn am ychydig o wybodaeth amdanoch. Mae hyn er mwyn i ni allu deall pwy sy'n cwblhau'r arolwg ac a ydym yn clywed gan ystod eang o bobl. Nid oes unrhyw rannau o'r arolwg yn orfodol. Ar ôl cwblhau'r arolwg, gofynnir i chi a hoffech wneud cais i ymuno â ni ar gyfer ein gweithdy olaf o'r prosiect i benderfynu ar y Deg blaenoriaeth Uchaf. Mae hyn yn gwbl wirfoddol, ac nid ydym yn cysylltu eich ymatebion i'r arolwg â'r manylion a roddwch ar y ffurflen hon. Am ragor o wybodaeth, gweler ein hysbysiad preifatrwydd. Fersiwn hawdd ei ddarllen Mae gennym fersiwn hawdd ei darllen o'r arolwg sydd ar gael, cysylltwch â Natalie Gerardo am gopi. Arolwg Pa un o'r canlynol sy'n eich disgrifio orau? Os ydych y ddau, ticiwch yr opsiwn sy'n disgrifio'r opsiwn y dylanwadwyd arnoch fwyaf wrth ateb yr arolwg. Menywod, merch neu berson wedi'u cofrestru fel menyw adeg genedigaeth Ymarferydd Gofal Iechyd yng Nghymru neu ffiniau Lloegr Ym mha ardal ydych chi'n gweithio (ar gyfer ymarferwyr) neu'n byw (ar gyfer menywod a merched)? Blaenau Gwent, Caerphilly, Monmouthshire, Newport, Torfaen Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam Caerdydd, Bro Morgannwg Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro Powys Abertawe, Castell-nedd Port Talbot Ble bynnag yr ydych yng Nghymru Rhywle arall – esboniwch Arall... Beth yw eich grŵp ethnig? (Dewiswch un opsiwn sy’n disgrifio orau eich grŵp neu gefndir ethnig) Beth yw eich grŵp ethnig? (Dewiswch un opsiwn sy’n disgrifio orau eich grŵp neu gefndir ethnig) A Gwyn A Gwyn - Dim -Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu BrydeinigGwyddeligSipsi neu Deithiwr GwyddeligSipsi neu Deithiwr GwyddeligUnrhyw gefndir Gwyn arall, nodwch nhw yma Arall... B Grwpiau ethnig Cymysg neu Luosog B Grwpiau ethnig Cymysg neu Luosog - Dim -Gwyn a Du CaribïaiddGwyn a Du AffricanaiddGwyn ac AsiaiddUnrhyw gefndir Cymysg neu Luosog arall, nodwch nhw yma Arall... C Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig C Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig - Dim -Indiaidd Pacistanaidd Bangladeshaidd Tsieineaidd Unrhyw gefndir Asiaidd arall, nodwch nhw yma Arall... D Du, Du Cymreig, Du Prydeinig Garibïaidd neu Africanaidd D Du, Du Cymreig, Du Prydeinig Garibïaidd neu Africanaidd - Dim -Caribïaidd Cefndir Affricanaidd, nodwch isodUnrhyw gefndir Du, Du Prydeinig neu Garibïaidd arall, nodwch nhw yma Arall... Cefndir Affricanaidd, nodwch isod E Grŵp ethnig arall E Grŵp ethnig arall - Dim -Arabaidd Unrhyw grŵp ethnig arall, nodwch nhw yma Arall... Pa grefydd, enwad crefyddol neu gorff ydych chi'n perthyn iddo? Pa grefydd, enwad crefyddol neu gorff ydych chi'n perthyn iddo? - Dim -Dim crefydd Cristion (pob enwad)Bwdhydd Hindŵ Iddew Islam Siciaeth Dewis peidio â dweud Unrhyw grefydd arall nodwch isod nodwch isod Ai Cymraeg yw eich dewis iaith ar gyfer cyfathrebu am iechyd? Ie Na Beth yw eich oed? - Dim -16-24 25-3435-4445-5455-6465-74>75Dewis peidio â dweud Darllenwch y rhestr a dewiswch y cwestiynau rydych chi'n credu sydd bwysicaf i ymchwil eu hateb – gallwch ddewis hyd at 10. . 1. Sut y gellir darparu gwybodaeth iechyd menywod a merched mewn fformat cywir, clir a syml i gefnogi mynediad amserol a phriodol i wasanaethau gofal iechyd? 2. Sut y gellir sicrhau bod menywod a merched yn cael yr amser a'r cyfleoedd priodol sydd eu hangen arnynt i ateb eu holl gwestiynau? 3. Sut y gellir cydnabod rhywedd yn briodol wrth gyfathrebu â menywod am ofal iechyd? 4. Sut y gellir osgoi sefyllfaoedd lle mae ymarferwyr gofal iechyd yn codi cywilydd ar ferched yn eu harddegau trwy dybio eu bod yn cael perthnasau rhywiol? 5. Sut y gellir osgoi ansensitifrwydd wrth gyfathrebu am ofal iechyd ac apwyntiadau gyda menywod a merched? 6. Beth fyddai'r arfer gorau wrth gyfathrebu â menywod ynghylch camesgori a genedigaeth farw? 7. Sut y gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fod yn fwy hygyrch i fenywod a merched ag anghenion gofal iechyd i gynyddu cyfleoedd ar gyfer cyfathrebu? (e.e. sesiynau drws agored, yn bersonol neu'n electronig) 8. Beth yw'r dulliau gorau o helpu menywod a merched i deimlo eu bod yn cael eu clywed, eu deall a'u cymryd o ddifrif mewn ymgynghoriadau gofal iechyd? 9. Sut y gellid dylunio technoleg yn well a'i defnyddio orau i gyfathrebu am wasanaethau gofal iechyd i fenywod a merched? (e.e. apiau, fideogynadledda, gwasanaethau testun neu ar-lein) 10. Sut y gellir darparu gwybodaeth briodol am oedran i fenywod a merched ar draws y rhychwant oedran? 11. Beth yw'r dulliau gorau o gyfleu diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth ddefnyddiol i fenywod a merched sy'n defnyddio gwasanaethau gofal iechyd? 12. Sut y gellir cyfathrebu ar draws gwahanol wasanaethau iechyd i fenywod a merched mewn ffordd mwy cysylltiedig a di-dor? 13. Sut y gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ddangos tosturi a sicrhau canolbwyntio ar yr unigolyn yn eu rhyngweithio â menywod a merched i sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu 'gweld' a'u clywed yn ystod ymgynghoriadau? 14. Sut y gellir cydnabod a mynd i'r afael â llythrennedd iechyd isel mewn menywod a merched er mwyn gwella cyfathrebu â hwy ar faterion gofal iechyd? 15. Sut gall rhyngweithio a chyfnewid gwybodaeth rhwng menywod a merched ac ymarferwyr gofal iechyd fod yn fwy cywir, effeithiol ac ystyrlon? 16. Sut y gellir darparu gwybodaeth hunangymorth yn fwyaf effeithiol i gefnogi menywod a merched i reoli eu hiechyd? 17. Beth yw'r dulliau gorau o ran sicrhau bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn meddu ar y cyfarpar a'r hyfforddiant priodol i gyfathrebu'n effeithiol â menywod a merched am eu problemau iechyd? 18. Beth yw'r ffyrdd gorau o ddatblygu perthynas lwyddiannus rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol a menywod a merched? 19. Sut y gall trafodaethau agored am faterion iechyd sy'n effeithio ar fenywod a merched gael eu hannog a'u hwyluso o fewn gofal iechyd, ysgolion a'r gymdeithas ehangach? 20. Sut y gellir pwysleisio cyfathrebu ar wasanaethau iechyd ataliol i fenywod a merched yn fwy effeithiol? 21. Beth yw'r dulliau gorau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ddarparu addysg i bobl ifanc am dlodi mislif, sut y gellir darparu hyn yn deg i bawb a pha hyfforddiant staff sydd ei angen? 22. Beth yw'r ffyrdd gorau o helpu menywod a merched i adnabod gwybodaeth anghywir am eu hiechyd? 23. Sut y gall poblogaethau menywod a merched nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol a/neu sydd â rhwystrau diwylliannol, cymdeithasol neu iaith gael eu cefnogi i gael gafael ar wybodaeth iechyd a gofal iechyd? 24. Sut y gellir hyrwyddo gwasanaethau nyrsio ysgolion orau i sicrhau bod pobl yn gwybod sut i'w cyrchu a'u defnyddio? 25. Sut y gellir cefnogi menywod a merched orau i fod yn hyderus wrth ofyn am ymarferydd benywaidd os ydynt yn teimlo y byddai hyn yn gwella cyfathrebu llawn ac agored am eu problemau iechyd? 26. Beth yw'r ffordd orau o arfogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gyda gwybodaeth i gyfeirio menywod a merched at wasanaethau lleol perthnasol? 27. Beth sy'n unigryw ac yn wahanol yn y ffordd y mae menywod (yn hytrach na dynion) yn cyfathrebu eu symptomau mewn ymgynghoriadau gofal iechyd? 28. Sut y gellir cynnig cyngor ar feichiogrwydd iach sy'n effeithiol ac yn gwneud gwahaniaeth i arferion tymor hir? 29. Beth yw'r ffordd orau o ymgysylltu, hysbysu ac addysgu menywod sydd angen cymorth iechyd meddwl mamol? 30. Beth yw'r ffordd orau o gyfathrebu â menywod sydd angen cefnogaeth ar gyfer iechyd llawr pelfis ac anymataliaeth straen? 31. Beth fyddai adnoddau sy'n briodol i'w hoedran i'w defnyddio mewn gwersi perthnasoedd ac addysg rhyw a beth mae merched a menywod ifanc ei eisiau ganddyn nhw? 32. Sut y gellir cyrchu a defnyddio gwasanaethau cyfieithu yn fwyaf effeithiol mewn gwasanaethau gofal iechyd i gefnogi cyfathrebu ar gyfer menywod a merched? 33. Sut y gellir cefnogi menywod a merched i gael trafodaethau mewn ymgynghoriadau am eu hiechyd y byddai'n well ganddynt eu cael heb eu partner, gŵr, rhiant neu ofalwr yn bresennol? 34. Beth yw'r ffordd orau o gyfathrebu gyda menywod a merched ag anableddau dysgu a/neu sy'n niwrowahanol am faterion sy'n ymwneud â'u hiechyd a'u gofal iechyd? 35. Beth yw'r arfer gorau o ran ymgysylltu, hysbysu ac addysgu menywod a merched am iechyd rhyw gan gynnwys atal cenhedlu a pharatoi ar gyfer beichiogrwydd? 36. Beth yw'r dulliau gorau o gyfathrebu gyda menywod a merched am sut i fod yn ddiogel wrth ddefnyddio apiau digidol i olrhain eu mislif a'u ofylu? 37. Sut y gellir sefydlu arfer gorau wrth siarad a chodi ymwybyddiaeth ymhlith menywod a merched ynglŷn â materion sy'n gysylltiedig â'r menopos, y perimenopos a iechyd mislif? Leave this field blank