Intro paragraph

Nodi blaenoriaethau ymchwil i gyfathrebu ynghylch iechyd menywod

 

Diolch am ein helpu i lunio dyfodol ymchwil iechyd menywod yng Nghymru.

Pwy ddylai ymateb i’r arolwg?

Menywod a merched(dros 16 oed),a phobl sydd wedi eu cofrestri’n fenywaidd ar enedigaeth sy’n byw yn, ac yn/neu’n derbyn gofal iechyd gan y GIG yng Nghymru. 

Golyga hyn y gallech chi fod yn byw yng Nghymru ond yn mynd at feddyg teulu neu Ysbyty yn Lloegr.

Gall myfyrwyr sy’n byw ac yn astudio yng Nghymru ymateb i’r arolwg.

A fyddech gystal ag ymateb gan ddefnyddio eich profiadau iechyd chi yn unig, ac and ydych yn ymateb ar ran pobl eraill y gallech fod yn gofalu amdanynt.

Beth a olygir trwy ddweud ‘cyfathrebu ynghylch iechyd menywod’?

Unrhyw ffurf o gyfathrebu(wyneb yn wyneb, ebyst,negeseuon testun,ysgrifen,galwadau ffôn,delweddaeth) sy’n gysylltiedig efo unrhyw elfen o iechyd menywod a merched 16+.

Beth a olygir trwy gwasanaethau’r GIG?

A fyddech gystal ag ystyried y profiadau cyfathrebu yr ydych wedi eu cael gydag ymarferwyr y GIG (meddygon,nyrsys,ymarferwyr nyrsio uwch,physiotherapyddion ac ati.)o fewn y gwasanaethau canlynol:

  • Gwasanaethau a ddarperir mewn syrjeri meddyg teulu
  • Fferyllfeydd
  • Deintyddion
  • Optegyddion
  • Gofal dewisol wedi ei gynllunio fel arfer wedi ei ddarparu trwy ysbyty
  • Gofal brys ac argyfwng
  • Nyrsys ardal
  • Gwasanaethau iechyd plant
  • Gwasanaethau iechyd rhywiol
  • Ymwelyddion iechyd
  • Gofal iechyd meddwl
  • Nyrsys Ysgol

Ni fyddwn yn cynnwys materion cyfathrebu gyda’r gweithlu gweinyddol neu faterion cyffredinol ynghylch gwasanaethau yr arolwg hwn e.e amserau aros, sydd tu hwnt i gwmpas y pwnc hwn.

Yw e’n gyfrinachol?

Mae’r arolwg hwn yn gyfrinachol. Byddwn yn gofyn i chi am ychydig o wybodaeth amdano chi er mwyn medru deall pwy sydd yn cwblhau’r arolwg, ac i sicrhau ein bod yn clywed wrth ystod eang o bobl. Does dim un rhan o’r arolwg yn orfodol.

Wedi cwblhau’r arolwg byddwn yn gofyn i chi a hoffech chi gael eich hysbysu o unrhyw ddatblygiadau am y project. Mae hyn yn gwbl wirfoddol, ac ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ymatebion i’r arolwg i’r manylion y byddwch yn eu darparu. Am wybodaeth bellach, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.


A fyddech gystal a darparu enghraifft/enghreifftiau? Yn yr arolwg,gallwch ddarparu unrhyw ffurf o gyfathrebu’n uniongyrchol (e.e gydag ymarferydd,mewn apwyntiad,mewn ebost,llythyr,neges destun ac ati.)neu’n anuniongyrchol(e.e.trwy wybodaeth gyffredinol/addysg a, wasanaethau’r GIG neu faterion iechyd.)
4. Ble ydych chi’n derbyn gofal gan y GIG? Ticiwch y mannau perthnasol
5. Ydych chi’n byw yng Nghymru?

5. Beth yw eich grŵp ethnig? (Dewiswch un opsiwn sy’n disgrifio eich grŵp ethnig neu gefndir orau)

5. Beth yw eich grŵp ethnig? (Dewiswch un opsiwn sy’n disgrifio eich grŵp ethnig neu gefndir orau)

Gwyn
Grwpiau Cymysg neu Amlethnig
Asiaidd, Asiaidd Gymreig neu Asiaidd Brydeinig
Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd
Grŵp ethnig arall
6. Pa grefydd, enwad crefyddol neu gorff ydych chi’n perthyn iddo?
7. Ai’r Gymraeg yw eich dewis iaith ar gyfer cyfathrebu am iechyd?
8. Beth yw eich oedran?
9. Beth yw eich rhyw?

Bydd cwestiwn am eich rhywedd?

10. Yw’r rhywedd yr ydych yn uniaethu ag ef yr un fath â’r rhyw a gofrestrwyd ar enedigaeth?