Yr Athro Donald Fraser
Cyfarwyddwr
Mae ymchwil Donald yn mynd i’r afael â mecanweithiau sy’n sail i anafiadau a chreithiau yn yr arennau a’r peritonewm, yng nghyd-destun clefyd yr arennau cronig a dialysis peritoneaidd. Mae’r rhain yn enghreifftiau o anhwylderau ffibro-amlhaol, cyflyrau sy’n achosi clefyd a dioddefaint sylweddol, ac y mae’r dewisiadau triniaeth ar eu cyfer yn gyfyngedig iawn. Mae datblygu a phrofi therapïau newydd wedi’i gyfyngu gan wybodaeth anghyflawn am fioleg eu cynnydd, a diffyg biofarcwyr digonol i weithredu fel pwyntiau terfyn dirprwyol mewn treialon clinigol.
Mae Donald yn Gyfarwyddwr Uned Ymchwil Arennol Cymru, sef Uned Ymchwil Biofeddygol a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gyflawni strategaeth Cymru gyfan ar gyfer astudio diagnosis, atal, trin a chyd-destun cymdeithasol clefyd yr arennau (http://kidneyresearchunit.wales).
Mae Donald hefyd yn glinigol weithgar fel neffrolegydd ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, lle mae’n Ddirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu, ac Arweinydd Meddygol ar gyfer Cyfleuster Ymchwil Glinigol y bwrdd iechyd.
Yn y newyddion:
Prif gynhadledd arennau'r DU yn dod i Gymru am y tro cyntaf (June 2023)
Sefydliad
Uned Ymchwil Arennol Cymru ac Adran Haint ac Imiwnedd,
Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd
Cysylltwch â Donald
Ffôn: 02921848449