Family at table in cafe

A fyddech chi’n hoffi chwarae rhan mewn helpu i sicrhau diogelwch a llesiant y rheini sy’n cymryd rhan mewn ymchwil?

29 Gorffennaf

Os ydych chi’n frwd dros ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, yn gallu dadansoddi materion cymhleth, bod yn wrthrychol eich safbwynt a dweud eich barn, yna fe allai gwirfoddoli i ddod yn aelod o Bwyllgor Moeseg Ymchwil fod yn gyfle perffaith i chi – mae unrhyw un yn gallu chwarae rhan.

Cyn y bydd y claf cyntaf yn cael ei recriwtio i astudiaeth ymchwil, mae’n rhaid i Bwyllgor Moeseg Ymchwil adolygu’r cais ymchwil. Mae’r cam hollbwysig hwn yn gwarchod diogelwch a llesiant y rheini sy’n cymryd rhan mewn ymchwil, ac mae gennym ni gyfle cyffrous i chi fod yn rhan o bwyllgor yng Nghymru.

Beth ydy Pwyllgor Moeseg Ymchwil?

Gwirfoddolwyr ydy aelodau Pwyllgor Moeseg Ymchwil (REC) ac maen nhw’n adolygu ymchwil sy’n digwydd yn y DU o safbwynt moesegol, gan ddiogelu cleifion a’r cyhoedd a hefyd hybu ymchwil foesegol dda.

Mae pob aelod yn cael ei ddyrannu i bwyllgor penodol sydd â rhwng saith a 18 o aelodau sy’n gymysgedd o aelodau’r cyhoedd ac arbenigwyr ymchwil. Mae cyfraniad pob aelod yr un mor werthfawr â’i gilydd.

Beth fydda’ i’n ei wneud?

Fel rhan o’r pwyllgor, fe fyddwch chi’n adolygu ceisiadau ymchwil iechyd i sicrhau diogelwch a llesiant y bobl sy’n cymryd rhan mewn ymchwil a’r cyhoedd.

Rydyn ni’n edrych am bobl ag ymrwymiad cryf i ddiogelu cleifion a’r cyhoedd a hefyd ymrwymiad i hybu ymchwil foesegol dda.

Rôl wirfoddol ydy hon, ond telir treuliau teithio a hyfforddi, ac fe fydd angen ichi ymrwymo i fynychu o leiaf chwe chyfarfod REC llawn y flwyddyn.

Pwy sy’n cael ymgeisio?

Rydyn ni’n awyddus i dderbyn ceisiadau oddi wrth aelodau’r cyhoedd o amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau. Nid oes angen ichi fod wedi gweithio i’r GIG; mae gennym ni ddiddordeb mewn ceisiadau oddi wrth bawb.

A fydda’ i’n cael fy hyfforddi?

Fel aelod o REC fe fyddwch chi’n cael:

  • hyfforddiant a mynediad i ddigwyddiadau hyfforddi aelodau’r Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) (ennill pwyntiau datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer clinigwyr)
  • gwybodaeth gynyddol ym meysydd methodoleg ac ystadegau ymchwil
  • gwell dealltwriaeth o foeseg ymchwil a deddfwriaeth berthnasol
  • sgiliau pwyllgor
  • gwell dealltwriaeth o ehangder yr ymchwil sy’n dod i mewn i Gymru

Sut y galla’ i gymryd rhan?

Mae gwybodaeth bellach am aelodaeth o bwyllgor ar gael ar dudalen yr Awdurdod Ymchwil Iechyd ar ddod yn aelod o REC. Os hoffech chi gael sgwrs ag un o’r tîm ynglŷn â’r cyfle cyffrous hwn, anfonwch e-bost i hcrw.recsupport@wales.nhs.uk.