Man speaking to crowd

Fydden ni ddim wedi gallu gwneud hyn heboch chi!

24 Tachwedd

Mae cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi dod i ben am flwyddyn arall a hon oedd y gynhadledd orau eto. Ni fyddai wedi bod yn gymaint o lwyddiant heb waith caled y siaradwyr, yr arddangoswyr rhyngweithiol, y cynrychiolwyr a phawb a gyflwynodd grynodeb neu gais am wobr cynnwys y cyhoedd - diolch o galon i bob un ohonoch.

Daeth dros 330 ohonoch i Stadiwm SWALEC, Caerdydd yr wythnos ddiwethaf, ac roedd y gynhadledd yn canolbwyntio ar y thema o ddiogelu ymchwil at y dyfodol yng Nghymru gyda gweithdai rhyngweithiol oedd yn procio’r meddwl a 35 o siaradwyr a fu’n trafod cyfraniad ymchwil yng Nghymru tuag at lunio triniaeth a gofal y dyfodol.

two people posing with award

Tuag at ddiwedd y gynhadledd enillodd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl wobr Cyflawniad Cynnwys y Cyhoedd am ei gwaith arloesol yn cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd meddwl. Hi gyflwynodd y cais buddugol ‘Partneriaeth mewn Ymchwil (PÂR) a oedd yn un o blith 14 o geisiadau eraill gan seilwaith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Am y tro cyntaf eleni roedd y gynhadledd yn cynnwys ardal bosteri, a bu’n llwyddiannus iawn. Cyflwynwyd crynodebau o 100 a mwy o bosteri, a dewiswyd 35 i’w harddangos yn y gynhadledd.

Vicky Shepherd with award

Victoria Shepherd, cymrawd ymchwil y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) yn y Ganolfan Treialon Ymchwil a enillodd wobr y poster gorau am ei chyflwyniad  ‘Anghydraddoldebau ymchwil mewn iechyd a gofal cymdeithasol: sut gallwn ni fynd i’r afael â mater dieithrio oedolion sydd heb y gallu i gydsynio?

Wrth sôn am y wobr, dywedodd Victoria: “Rydw i wrth fy modd fy mod wedi ennill y wobr agoriadol am y poster gorau yng nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

“Mae’r poster yn cyflwyno rhai o ganfyddiadau fy Nghymrodoriaeth NIHR a gafodd ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac sydd yn edrych ar waith ymchwil yn ymwneud ag oedolion sydd heb y gallu i gydsynio. Mae’n wych bod y gwaith wedi cael ei gydnabod gan y wobr hon.”

Yn ail a thrydydd yn y gystadleuaeth poster roedd:

Three people posing with award

O’r 27 arddangoswr yn y gynhadledd, yr Uned Cyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN) a enillodd y wobr am y stondin ryngweithiol orau, drwy bleidlais y cynrychiolwyr. Roedd stondin golf mini ‘Cwpan Trident’ BRAIN yn ceisio cynrychioli’r anawsterau sy’n wynebu cynllun treialu Trident, sef astudiaeth ymchwil o driniaethau posib ar gyfer clefyd Huntington.

Roedd Dr Cassy Ashman, rheolwr Uned BRAIN, wrth ei bodd gyda’r fuddugoliaeth: “Rydym ni yn Uned BRAIN wrth ein boddau o fod wedi ennill y Stondin Ryngweithiol Orau am y drydedd flwyddyn yn olynol!

“Mae’n wych bod y gynulleidfa wedi dangos cymaint o ddiddordeb yn ein cwrs golf mini Cwpan TRIDENT, ac rydym yn gobeithio eu bod wedi dysgu rhywbeth am y treialon clinigol cyffrous sy’n digwydd yn uned BRAIN, i helpu i drin clefydau niwrolegol a niwroddirywiol.

Woman with toy cat at exhibition stand

Yn ail am y stondin ryngweithiol orau roedd Cynyddu Gwaith Ymchwil Cymru (RCBC) gyda’u bathodynnau a’u cathod robotig (lluniau uchod) sy’n ceisio rhoi cysur i gleifion dementia sy’n cael trafferth cyfathrebu. Banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) oedd yn drydydd, a hynny am eu stondin ar y thema ‘Dyfalu Pwy’ – roedd ganddyn nhw lawer o gacenni bach hefyd!

Dywedodd Carys Thomas, cyfarwyddwr ar y cyd dros dro Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Diolch i bawb a ymunodd â ni yng nghynhadledd Iechyd a Gofal Cymru 2018, ac i bawb a’i gwnaeth yn llwyddiant. Roedd yn wych gweld y gymuned ymchwil yn dod at ei gilydd ac i glywed am y gwaith sy’n digwydd i fynd i’r afael â’r sialensiau sydd o’n blaenau a’r effaith gadarnhaol y mae gwaith ymchwil yn ei chael ar drigolion Cymru.”