Vial of blood and microscope

“Gallai hyn arbed mwy o fywydau nag y gallech hyd yn oed ei ddychmygu” - sut y gwnaeth gwaith cydweithredol ganfod ymyrraeth atal diabetes gwerthfawr i Gymru

Daeth ‘gweithio cydweithredol’ yn ymadrodd poblogaidd iawn yn y gymuned ymchwil; bu'n ffocws llawer o gynadleddau ac yn faen prawf hanfodol ar lawer o geisiadau cyllido.

Ond sut mae'n gweithio mewn bywyd go iawn? Gwnaethom siarad â thîm o ymchwilwyr diabetes i ddarganfod sut y buont yn gweithio gyda'i gilydd i werthuso ymyrraeth atal diabetes newydd i Gymru, a rôl Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru mewn gwneud iddo ddigwydd.

Wrth ddarganfod mwy am y rhaglen atal diabetes, a ddaeth â'r grŵp at ei gilydd yn y lle cyntaf, dywedodd Berni Sewell, Cyd-Ymgeisydd ac aelod o'r Tîm Rheoli Economeg Iechyd a Gofal Cymru: “Mae'n ymyrraeth ymddygiad iechyd byr, a dreialwyd gyntaf yn Nyffryn Afan; roedd yn ymddangos ei bod yn cael effaith gadarnhaol ar bobl a nodwyd fel rhai mewn risg uchel o gael diabetes.

“Cyflenwir yr ymyrraeth gan weithiwr cymorth sydd wedi’i hyfforddi a’i oruchwylio gan Ddietegydd Cofrestredig. Cynhaliodd Uned Ymchwil Diabetes Cymru ddadansoddiad o'r data clinigol, a chanfu fod mwyafrif y cleifion yn dychwelyd i ystod glwcos gwaed arferol.”

Ychwanegodd Helen Nicholls, Deietegydd Cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a oedd yn ymwneud â’r prosiect: “Gwnaethom werthuso’r rhaglen hon gyda thîm Uned Ymchwil Diabetes Cymru, ac yna, gan weld ei bod yn effeithiol mewn termau clinigol, gwnaethpwyd dadansoddiad economeg iechyd gyda Shaun, Kostas a Pippa o Ganolfan Economeg Iechyd Abertawe i ddeall y buddion iechyd ac economaidd er mwyn llunio llwybr a fyddai'n gweithio i Gymru.

“Mabwysiadwyd y llwybr hwnnw gan Grŵp Gweithredu Diabetes Cymru gyfan. Yna aethom at Lywodraeth Cymru gyda'n canfyddiadau, ac fe'i cynhwyswyd yn y cynllun cyflenwi ar gyfer Pwysau Iach Cymru Iach. Drwy’r llwybr hwn, rhoddwyd miliwn o bunnau o gyllid iddo.”

“Dim ond gydag amser a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru y digwyddodd hyn mewn gwirionedd” esboniodd Pippa Anderson, Pennaeth Canolfan Economeg Iechyd Abertawe (SCHE) ym Mhrifysgol Abertawe.

“Cafodd Steve Luzio, arweinydd tîm Uned Ymchwil Diabetes Cymru, Shaun Harris, Economegydd Iechyd yn SCHE, a minnau gyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a alluogodd ni i sefydlu gwaith cydweithredol â’r Byrddau Iechyd.

“Fel rhan o hynny, fe wnaethon ni ddigwydd mynychu cyfarfod bwrdd iechyd ynglŷn â rhaglenni diabetes. Yn y cyfarfod hwnnw, cawsom wybod am brosiect Cwm Afan ac roeddem yn sylweddoli y gallai hyn fod yn bwysig iawn i iechyd pobl yng Nghymru.

“Gwnaeth Steve a'i gydweithwyr y gwaith dadansoddi data, a gwnaeth Shaun rai ystadegau bras ar y gwahaniaeth y byddai'r prosiect yn ei wneud pe bai'n cael ei gyflwyno'n ehangach.

“Yna aeth y gair allan at Helen, a gysylltodd â Steve… a buom ddigon ffodus o gael cyllid i wneud dadansoddiadau mwy trylwyr. Dim ond trwy'r rhwydweithiau gwych hyn yr oeddem wedi'u hadeiladu yr oedd hyn yn bosibl.

“Pe na buasem wedi cael yr amser a’r anogaeth gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i wneud y cysylltiadau hynny, a chael amser i feddwl am bethau, ni fyddai’r gwerthusiad hwn erioed wedi digwydd.”

“Mae'n hawdd gwerthu'r rhaglen yma pan mae gennych chi bapur a gwerthusiad economeg iechyd gwych y tu ôl i chi,” meddai Helen.

“Yn aml, economeg iechyd yw’r rhan sydd ar goll mewn unrhyw ddatblygiad gwasanaeth.”

Meddai Steve: “Mae hyn wedi dod o'r gwaelod i fyny. Roedd yn fenter gan feddygon teulu, a chawsom y data clinigol ohoni i wneud y gwerthusiad. Nid treial mawr rheoli ar hap oedd hwn, ond bywyd go iawn mewn gwirionedd, a dull pragmatig o ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol i wasanaethau a phobl Cymru.

“Nid oedd hon yn astudiaeth ymchwil enfawr gwerth miliynau o bunnau. Tîm bach oedd yma, un ymarferol iawn a oedd yn canolbwyntio ar y gwasanaeth.”

“Mae'n enghraifft dda iawn o ofal iechyd yn seiliedig ar werth,” meddai Helen.

“Ar ôl COVID-19, rwy'n credu bod diabetes a gordewdra yn ddau faes lle bydd angen mwy o ymchwil. Rydyn ni eisoes yn gweld effaith cau rhai gwasanaethau, felly mae hyn yn bwysicach nag erioed.”

Mae gwaith o gyflwyno'r rhaglen ar y gweill, ac mae Pippa o'r farn y bydd yr ymyrraeth yn cael effaith enfawr yn y dyfodol:

“Gallai hyn arbed mwy o fywydau nag y gallech hyd yn oed ei ddychmygu.”