a_photo_of_wales_cancer_research_centre_logo

Galw am Ddatganiadau o Ddiddordeb i fod yn aelodau o Bwyllgor Llywio WCRC/CReSt

Mae Pwyllgor Llywio WCRC/CReSt yn cael ei sefydlu, i gyfarfod ddwywaith y flwyddyn i gynnig cyngor arbenigol a mewnbwn strategol i weithgareddau WCRC a gweithrediad CReSt ehangach. Bydd aelodau’r pwyllgor yn goruchwylio ac yn llywio, trwy fewnbwn arbenigedd ac ymgysylltu gweithredol â datrys problemau, trwy bresenoldeb a chyfranogiad mewn cyfarfodydd (tua 2.5 awr yr un) ac all-lein rhwng cyfarfodydd fel y bo’n briodol.

Sylwer bod y rhain yn rolau di-dâl. 

Rydym yn galw am Ddatganiadau o Ddiddordeb gan unigolion ar gyfer y rolau canlynol.

Cynrychiolydd Seilwaith Treialon 
Cynrychiolydd Nyrsys a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd 

I fod yn gymwys mae’n rhaid i chi fod wedi’ch lleoli yng Nghymru, yn ymwneud â gweithgaredd sy’n gysylltiedig ag ymchwil (neu ei reoli) sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol berthnasol i ganser; ac nad ydynt yn derbyn cyllid WCRC ar hyn o bryd, nac yn arweinydd academaidd CReSt. Mae’r swyddi ar hyn o bryd tan 2028 a bydd yr aelodaeth yn cael ei chylchdroi bryd hynny, i agor cyfleoedd yn y dyfodol i eraill gymryd rhan.

Anfonwch eich datganiadau o ddiddordeb at wcrc@caerdydd.ac.uk erbyn 31/03/2025.

Mwy o wybodaeth