Care home worker speaking with elderly gentleman

Galw am staff cartrefi gofal yng Nghymru i helpu gydag ymchwil hanfodol

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Rhydychen eisiau dysgu mwy am sut y mae staff cartrefi gofal yn cydnabod ac yn rheoli cyfnodau pan fydd preswylwyr yn ymddangos yn llai iach neu pan nad ydyn nhw’n fel y maen nhw fel arfer.  

Mae’r astudiaeth, o’r enw Understanding CAre home Response to Episodes of acute decline (uCARE), yn chwilio am reolwyr cartrefi gofal, nyrsys, neu ofalwyr o bob rhan o’r DU gydag o leiaf un flwyddyn o brofiad i roi eu profiadau a’u barn.

Beth sydd angen i mi ei wneud os byddaf yn cymryd rhan?

Byddai cymryd rhan yn golygu siarad ag ymchwilydd ar y ffôn am hyd at awr am eich profiadau o gydnabod a rheoli preswylwyr sy’n llai iach nag arfer.

Os ydych chi’n hapus i fwrw ymlaen, bydd yr ymchwilydd yn trefnu amser ar gyfer cyfweliad dros y ffôn ar adeg a dyddiad sy’n gyfleus.

Mae cymryd rhan yn gyfrinachol ac mae’r holl drawsgrifiadau’n ddienw. Mae modd cyfrif cymryd rhan fel Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a byddwch yn cael tystysgrif i gadarnhau eich bod wedi cymryd rhan. Byddwch hefyd yn derbyn taleb Amazon £20 i chi neu eich cartref gofal am eich amser.

Beth yw diben yr astudiaeth?

Dywedodd arweinydd yr astudiaeth, Dr Abigail Moore: "Rydym ni’n gwybod bod pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal weithiau’n cael cyfnodau pan fyddan nhw’n llai iach nag arfer. Weithiau caiff hwn ei alw yn ‘nid ydyn nhw fel y maen nhw fel arfer’ neu ‘ddirywiad acíwt’.

"Rydym ni eisiau gwybod sut mae staff cartrefi gofal yn cydnabod ac yn monitro’r cyfnodau hyn a sut y maen nhw’n penderfynu pa breswylwyr y mae angen mewnbwn gan feddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall arnyn nhw ac a yw staff cartrefi gofal yn credu y byddai profion diagnostig wrth ochr y gwely o gymorth mewn cartrefi gofal. Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu dulliau newydd o asesu pobl hŷn mewn cartrefi gofal."

Mae’r ymchwil yn cael ei threfnu gan Adran Gwyddorau Iechyd Gofal Sylfaenol Nuffield ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae’r ymchwil yn cael ei hariannu gan Bwyllgor Ymchwil Gwasanaethau Iechyd Swydd Rydychen.

Ymchwil mewn cartrefi gofal

Dywedodd Stephanie Green Cydlynydd rhwydwaith cartrefi gofal ENRICH Cymru: "Mae’r astudiaeth hon yn gyflwyniad perffaith i’ch gyrfa ymchwil bersonol neu yrfa ymchwil eich cartref gofal. Mae’n syml ond yn effeithiol ac mae gwrando ar y rhai ar y rheng flaen yn gallu darparu’r wybodaeth sydd ei hangen i ysgogi newid."

Beth yw’r camau nesaf?

I gael mwy o wybodaeth neu i ddysgu sut i gymryd rhan, cysylltwch â’r tîm ymchwil.