Galw am ymarferwyr gofal cymdeithasol i helpu i gyfeirio ymchwil yn y dyfodol
5 Awst
Cyn lansio'r Cynllun Ariannu Ymchwil gwerth £1.5 miliwn: Grant Gofal Cymdeithasol, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn galw am ymarferwyr gofal cymdeithasol o bob rhan o'r wlad i helpu i benderfynu pa gwestiynau ymchwil gofal cymdeithasol, sy'n newid bywydau, yw’r pwysicaf.
Yn rhan o'r alwad ariannu, rhaid i bob cais gael ei adolygu gan Banel Blaenoriaethu Cymru Gyfan; panel mawr a rhithiol sy'n cynnwys aseswyr cyhoeddus ac ymarfer.
Beth yw swyddogaeth aelod o Banel Blaenoriaethu Cymru Gyfan?
Gofynnir i aseswyr adolygu pwysigrwydd yr ymchwil arfaethedig i gleifion, y cyhoedd a llunwyr polisi a defnyddio eu gwybodaeth a'u profiad fel ymarferwyr gofal cymdeithasol ar y rheng flaen i roi adborth.
Cyfrifoldebau allweddol
Bydd aelodau'r panel yn adolygu rhwng un a deg o gyflwyniadau ymchwil ac yn rhoi adborth ysgrifenedig, yn ddigidol ar y cwestiynau ymchwil mwyaf priodol i'w datblygu.
Am bwy ydym ni’n chwilio?
Bydd angen i ymarferwyr gofal cymdeithasol sydd â diddordeb fod ag o leiaf pedair blynedd o brofiad a bod yn gweithio ar hyn o bryd yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym yn croesawu datganiadau o ddiddordeb gan y rhai sy'n gweithio ymhob agwedd ar ofal cymdeithasol o amrywiaeth o gefndiroedd, lefelau profiad a chyfrifoldeb. Bydd panel amrywiol yn rhoi llais i'r rhai hynny y bydd y buddsoddiad hwn yn effeithio arnynt.
Mae galwadau ariannu blaenorol wedi galluogi ymchwil i newid bywydau gan ystyried; sut mae plant sy'n derbyn gofal yn ymgysylltu ar-lein, sut mae’r amgylchedd yn y cartref ac o'u hamgylch yn effeithio ar ganlyniadau gofal cymdeithasol ac iechyd i bobl hŷn ac ymateb cymunedol Cymru i gam-fanteisio’n droseddol ar blant.
Roedd Ann John, Athro ym maes Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn eistedd ar Banel Blaenoriaethu Cymru Gyfan yn 2019.
Dywedodd:"Penderfynais eistedd ar y panel gan fy mod eisiau cael dweud ymhle y caiff yr arian cyhoeddus hwn ei wario i helpu pobl ledled Cymru. Mae'n amlwg bod pot cyfyngedig felly mae'n bwysig bod â phanel amrywiol o bobl o bob maes arbenigedd i roi cyngor.
"Dwi'n cofio gweld astudiaeth wnes i roi sylwadau arno am bobl ag anableddau dysgu yn cael eu hadrodd ac roedd yn deimlad mor dda gwybod bod gen i ran fach wrth wneud i'r ymchwil honno ddigwydd - a fydd, gobeithio, yn dylanwadu ar newid ac yn gwella bywydau."
Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, "Mae Panel Blaenoriaethu Cymru Gyfan yn banel rhithiol sy'n tyfu'n barhaus ac sy'n cynnal adolygiadau o bell o geisiadau, mae eu hadborth yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn buddsoddi yn yr ymchwil fwyaf priodol a fydd yn cael effaith ystyrlon."
Sut i wneud cais?
I gofrestru eich diddordeb, llenwch y ffurflen ar-lein hon neu os oes gennych gwestiynau e-bostiwch Wales@soton.ac.uk.