Tîm ymchwil yn cydweithio o amgylch bwrdd

Galwad am ddatgan diddordeb: Tïm Adolygu Iechyd Cyhoeddus

7 Rhagfyr

Mae Rhaglen Ymchwil Iechyd Cyhoeddus (PHR) Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) yn comisiynu Tïm Adolygu Iechyd Cyhoeddus  i gwblhau adolygiadau tystiolaeth iechyd cyhoeddus. Bydd yn ofynnol i'r tim hefyd adnabod meysydd pwnc i'w hadolygu ac ar gyfer adolygu iechyd cyhoeddus yn y dyfodol.

Caiff y tïm ei gomisiynu am gyfnod o bum mlynedd a chyfanswm ei werth yn £1.5m dros y pum mlynedd. Bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus gynhyrchu rhwng un a phedwar adolygiad y flwyddyn – yn ddibynnol ar faint a sgôp yr adolygiad.

I wneud cais, bydd yn ofynnol ichi astudio'r ddogfen manyleb yn ofalus am wybodaeth bellach ac yna paratoi datganiad o ddiddordeb. Byddwn yn croesawu ceisiadau oddi wrth dimau o Gymru.

Ni ddylai'r datganiad diddordeb fod yn hirach na thair ochr A4 a dylid ei anfon drwy ebost at phr@nihr.ac.uk erbyn 13.00 ar 31 Ionawr 2023.