grŵp o bobl yn gwneud ymarferion ymestyn

Galwad am Geisiadau am Grantiau gan Crohn's & Colitis UK

Gwahoddir ceisiadau am grantiau sydd i'w dyfarnu yn 2023 gan Crohn's & Colitis UK i ariannu ymchwil sy'n ymdrin ag un o flaenoriaethau penodol James Lind Alliance ar gyfer Clefyd Llid y Coluddyn. Mae'r rhain yn feysydd pwysig i bobl sy'n byw gyda Chlefyd Llid y Coluddyn, nad ydynt wedi cael llawer o sylw hyd yn hyn ac mae lle i wneud cynnydd o hyd.

Mae grantiau hyd at £100,000 am hyd at dair blynedd ar gael. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau am ariannu astudiaethau peilot a dichonoldeb, ac mae ariantaliadau a ffioedd myfyrwyr PhD yn gymwys. 

Ewch i wefan Crohn’s & Colitis UK am fwy o wybodaeth am y cyllid hwn, neu anfonwch e-bost at y tîm ymchwil

Dyddiad cau: 17:00 ddydd Gwener 26 Mai 2023