Coronafeirws

Galwad ariannu gwerth £20 miliwn yn agor ar gyfer ymchwil i ‘COVID hir’

12 Tachwedd

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd ac Ymchwil ar Arloesi’r DU wedi lansio galwad ariannu ar y cyd sydd werth £20 miliwn ar gyfer cynigion ymchwil sy’n rhoi sylw i effeithiau tymor hir COVID-19, mewn pobl sydd heb fynd i mewn i’r ysbyty.

Daw hyn yn sgil tystiolaeth feddygol gynyddol, a straeon oddi wrth gleifion, sy’n dangos bod lleiafswm bach ond arwyddocaol o bobl sy’n dal COVID-19 ac yn goroesi yn dweud bod ganddyn nhw symptomau cronig am fisoedd ar ôl dod yn sâl.

Mae’r problemau parhaus hyn, sef ‘COVID hir’ i roi enw cyffredin arnyn nhw, yn amrywio o ddiffyg anadl i orflinder cronig, ‘niwl yr ymennydd’, gorbryder a straen.

Mae disgwyl i brosiectau ddechrau ym mis Ionawr 2021 ac mae’n bosibl y byddan nhw’n cael eu hariannu am hyd at 3 blynedd yn y lle cyntaf.

Dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb: 2 Rhagfyr

Yr alwad yn cau: 9 Rhagfyr

I gael rhagor o wybodaeth ac i ymgeisio, ewch i wefan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd.