Dau berson hŷn yn eistedd ar soffa yn darllen gyda menyw

Galwad ariannu newydd gan ESRC/NIHR i ddatblygu rhwydwaith ‘Network Plus’ ar ddementia

Mae’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal ac Iechyd (NIHR) wedi agor galwad ariannu newydd i ddatblygu rhwydwaith ‘Network Plus’ ar ddementia, gyda’r nod o ariannu hyd at dri rhwydwaith o’r fath ar draws tri maes thematig:

  • Anghydraddoldebau sy’n effeithio ar bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr
  • Atal dementia a diagnosis cynnar
  • Dementia, yr economi a’r gweithlu

Mae rhwydwaith ‘Network Plus’ yn dwyn ynghyd rwydweithiau o ymchwilwyr mewn maes lle ceir her benodol. Yn ogystal â gweithgarwch rhwydweithio traddodiadol, mae ganddyn nhw hefyd gronfeydd ‘funding plus’ y gallan nhw eu defnyddio i ddatblygu a rhedeg eu cyfleoedd ariannu bach eu hunain. Mae hyn yn galluogi rhwydweithiau i dyfu ymhellach.

Bydd y cyllid hwn yn mynd i’r afael yn rhannol â’r her o grynodiadau daearyddol o ran cyllid ymchwil dementia drwy annog amrywiaeth eang o sefydliadau ymchwil i ymwneud â cheisiadau a gweithgarwch dilynol.

I gael manylion pellach am y cyfle ariannu hwn, anfonwch e-bost i’r tîm.

Dyddiad cau: 16:00 ar 12 Hydref 2023