Map Cyflym o Dystiolaeth: Iechyd menywod

Mae Is-adran Ymchwil a Datblygu Llywodraeth Cymru’n bwriadu rhedeg galwad ariannu wedi’i gomisiynu ynglŷn â deall anghydraddoldebau rhwng y rhywiau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a mynd i’r afael â nhw. Diben y REM hwn oedd nodi bylchau a blaenoriaethau ymchwil a fydd o fudd i iechyd menywod yng Nghymru, er mwyn darparu sail at gyfer galwad ariannu arfaethedig. Ar sail adolygiad rhagarweiniol o’r llenyddiaeth, adborth o ymarfer ymgynghori cyhoeddus y GIG yng Nghymru a thrafodaethau pellach â’r grŵp rhanddeiliaid, penderfynwyd y byddai’r REM yn canolbwyntio ar nodi natur a graddau’r llenyddiaeth ar y meysydd pynciau a ganlyn sydd â blaenoriaeth: ffordd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o gyfathrebu â menywod ynglŷn â materion yn ymwneud ag iechyd menywod a phroblemau iechyd ehangach yn ystod cyfarfodydd clinigol; mynediad i ofal iechyd arbenigol; endometriosis; menopos; materion yn ymwneud ag iechyd ac iechyd meddwl menywod, a phroblemau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â chyflyrau penodol cysylltiedig â menopos neu iechyd mislifol (adenomyosis; endometriosis; ffibroidau; gwaedu mislifol trwm, syndrom ofarïau polysystig ac anhwylder dysfforig cyn mislif). Ni archwiliwyd bylchau ymchwil mewn meysydd a chyflyrau iechyd eraill, lle y gallai menywod hefyd ddod ar draws anghydraddoldeb, yn y REM hwn.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
REM00045