Geneteg a Genomeg Rhithwir ar gyfer Cynhadledd y 3edd Genhedlaeth (3G)
Cyfle i gael gwybod mwy am faes cyffrous DNA, geneteg a genomeg ym mywyd bob dydd yn y digwyddiad cyhoeddus rhithwir, rhad ac am ddim hwn y mae Parc Geneteg Cymru’n ei letya.
Ynglŷn â’r digwyddiad hwn
A fyddech chi’n hoffi cael gwybod mwy am faes cyfareddol DNA, geneteg a genomeg a darganfod sut y mae’n effeithio ar ein bywyd bob dydd?
Ymunwch â 5ed gynhadledd flynyddol 3G Parc Geneteg Cymru, a fydd yn rhithwir eleni am y tro cyntaf! Bydd arbenigwyr yn siarad am bynciau’n cynnwys:
- Cyflwyniad i Genomeg a Chadwyno Genomau Cyflym ar gyfer Plant Sâl
- Dr Edward Jenner a Stori’r Frech Wen
- Dilemâu Moeseg ym maes Geneteg a Genomeg Clinigol
- Y Cynllun Cerdyn Melyn ar gyfer Meddyginiaethau yng Nghymru
- A mwy...
Gallwch chi ymuno trwy’r dydd neu alw heibio i glywed rhai o’r sgyrsiau (mae’r sgyrsiau’n para 25 munud gydag amser i gwestiynau gyda’u siaradwyr arbenigol) - Bydd yna egwyl fer rhwng bob sgwrs.
Mae’r digwyddiad yn benodol ar gyfer aelodau’r cyhoedd dros 50 oed, ond mae croeso i bawb.
£0.00
Cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn: trwy Eventbrite
I gael rhagor o wybodaeth: e-bost i Barc Geneteg Cymru