Yr Athro Christopher George
Cadeirydd, Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol a Athro Cardioleg Foleciwlaidd, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe
Mae Chris yn Athro Cardioleg Foleciwlaidd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae ei grŵp yn defnyddio offer moleciwlaidd a chellog ynghyd â data clinigol i ragfynegi sut y bydd celloedd y galon, peiriant pob curiad calon, yn ymateb i fwtaniadau genetig a chyffuriau. Nod eithaf yr ymchwil yw datblygu dulliau therapiwtig newydd i fynd i’r afael â chlefyd y galon genetig a chaffaeledig. Ariennir ei ymchwil gan Sefydliad Prydeinig y Galon, Ymddiriedolaeth Wellcome, y Cyngor Ymchwil Meddygol, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.
Mae Chris yn Brif Olygydd y ‘British Journal of Pharmacology’ ac yn gyfrifol am bortffolio cardiofasgwlaidd y cyfnodolyn. Mae hefyd yn aelod o fyrddau golygyddol ‘Cardiovascular Research’, ‘Frontiers in Physiology’ ac ‘Artery Research’. Mae ar Fwrdd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amnewid, Mireinio a Lleihau’r Defnydd o Anifeiliad mewn Ymchwil ac mae’n cadeirio’i Banel Asesu Grantiau.
Yn 2020, daeth Chris yn Gadeirydd Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol, partneriaeth newydd rhwng Llywodraeth Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon.